FSA in Wales
Ein ffordd o weithio
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd werthoedd craidd sy'n llywio pob un o'i phenderfyniadau. Mae hefyd yn gweithio o fewn cyfres o bolisïau ac ymrwymiadau sy'n cael eu hadlewyrchu yn ei harferion gweithio. Mae'r adran hon yn disgrifio ein gwerthoedd, ein polisïau a'n hymrwymiadau a'r modd yr ydym ni'n adrodd arnynt.
More in this section
-
Adolygiad o gydbwysedd cymwyseddau
Tuesday 6 November 2012
Mae'r Llywodraeth yn cynnal adolygiad o'r cydbwysedd o gymwyseddau rhwng yr Undeb Ewropeaidd (UE) a'r DU. Dyma archwiliad o'r hyn y mae'r UE yn ei wneud a'r modd y mae'n effeithio ar y DU.
-
Adolygu'r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu rhoi ar waith - diogelwch a safonau bwyd
Friday 20 January 2012
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi'n adolygu sut mae awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn cynnal gweithgareddau i fonitro a sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â'r gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. Gelwir y gweithgareddau cyfunol hyn yn 'rheolaethau swyddogol'.
-
Cydraddoldeb
Tuesday 31 January 2012
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac i ddileu pob math o wahaniaethu, aflonyddu a bwlio. Mae wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd gwaith da a chytûn, lle mae pob unigolyn yn cael ei barchu a lle na chaiff gwahaniaethu, bwlio nac aflonyddu o unrhyw fath ei oddef.
