FSA in Wales
Adolygu'r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu rhoi ar waith - diogelwch a safonau bwyd
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi'n adolygu sut mae awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn cynnal gweithgareddau i fonitro a sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â'r gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. Gelwir y gweithgareddau cyfunol hyn yn 'rheolaethau swyddogol'.
Bydd yr adolygiad yn gwerthuso pa mor effeithiol yw’r model gweithredu cyfredol ac yn ystyried sut y gellir gwneud gwelliannau. Byddwn ni’n casglu tystiolaeth i asesu’r system gyfredol a fydd yn seiliedig ar set o egwyddorion a chanlyniadau penodol.
Mae’r egwyddorion yn llywio’r hyn yr ydym ni’n ceisio’i gyflawni yn yr adolygiad, ac yn nodi nodweddion system ar gyfer gweithredu rheolaethau swyddogol. Bydd y canlyniadau’n darparu rhestr o ofynion penodol, o safbwynt diogelwch bwyd, o ran beth ddylai system gweithredu rheolaethau swyddogol llwyddiannus ei chynnwys. Byddwn yn defnyddio’r rhain fel sail i sut byddwn ni’n asesu’r model gweithredu cyfredol ac unrhyw opsiynau a ystyrir.
Bydd yr adolygiad hwn yn edrych ar ba mor effeithiol yw’r system gyfredol o ran bodloni’r gofynion, ac nid ar y gofynion hyn yn benodol.
Y rhesymeg - pam mynd ati i gynnal adolygiad?
Mae’r Asiantaeth yn gyfrifol am ddiogelu iechyd y cyhoedd rhag y peryglon sy’n gallu cael eu hachosi gan fwyd. Mae’r rhain yn cynnwys y peryglon sy’n codi yn sgil y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu neu ei gyflenwi. Er mwyn gwneud hyn, rhaid cael system sy’n sicrhau bod busnesau bwyd yn gallu cyflawni eu cyfrifoldebau o ran cynhyrchu bwyd diogel. Caiff y rhan fwyaf o’r gwiriadau a’r gweithgareddau angenrheidiol i sicrhau hyn eu cyflawni ar ein rhan gan awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd – sef yr awdurdodau cymwys.
Mae’r dystiolaeth gychwynnol yn awgrymu bod yna rai anghysondebau ym model presennol y DU ar gyfer gweithredu rheolaethau swyddogol, a bod gofyn ymchwilio i’r rhain. Ym mis Ionawr 2011, penderfynodd yr ASB ei bod hi’n bryd adolygu’r strwythur presennol er mwyn sicrhau ein bod ni’n cyflawni ein cyfrifoldebau i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Penderfynwyd cynnal yr adolygiad am nifer o resymau.
- Mae effeithiolrwydd y system gyfredol wedi cael ei gwestiynu mewn nifer o adroddiadau, gan gynnwys yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r Achos o E-coli 0157 ym mis Medi 2005 yng Nghymru ac Adroddiad Arglwydd Young – ‘Common Sense, Common Safety' (Saesneg yn unig)
- Mae Swyddfa Bwyd a Milfeddygaeth y Comisiwn Ewropeaidd wedi mynegi pryder ynghylch cymhlethdod model cyflawni’r DU.
- Mae angen deall effaith pwysau cyllidebol ac ystyried y ffordd orau o sicrhau bod y gwaith o ddiogelu iechyd y cyhoedd yn cael ei wneud mewn modd effeithlon, cadarn a chynaliadwy.
Cyflwynwyd amlinelliad o’r broses adolygu arfaethedig i Fwrdd yr Asiantaeth ar 12 Gorffennaf 2011. Gellir gweld manylion y cyfarfod a phapurau’r Bwrdd drwy glicio’r ddolen isod (Saesneg yn unig).
Cwmpas - beth ydym ni'n ei adolygu?
Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr holl reolaethau swyddogol ar ddiogelwch a safonau bwyd a gyflawnir gan awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd, sy’n perthyn i gylch gwaith yr Asiantaeth. Bydd hyn yn cynnwys:
- hylendid bwyd ym mhob un o wledydd y DU
- materion diogelwch bwyd mewn perthynas â chyfansoddiad a labelu bwyd ym mhob un o wledydd y DU
- y gallu i olrhain bwyd a mewnforion ym mhob un o wledydd y DU
- pa mor ddigonol yw’r cymorth a roddir gan labordai a’r cymorth dadansoddi ar gyfer gweithredu rheolaethau swyddogol
Cyflwynwyd amlinelliad o'r adolygiad arfaethedig i fwrdd yr Asiantaeth ar 12 Gorffennaf 2011. Yna, bu'r Bwrdd yn trafod y cynnydd gyda'r adolygiad ar 20 Mawrth 2012. Gellir gweld manylion y cyfarfod a'r papurau isod.
Mae’r adolygiad yn cynnwys pedwar cam allweddol:
- amlinellu’r egwyddorion a’r canlyniadau a nodi, casglu a dadansoddi tystiolaeth, a fydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2013
- disgrifio a chymharu’r gwahanol opsiynau, a fydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Gorffennaf 2013
- ymgynghori ar yr argymhellion rhwng mis Medi 2013 a mis Mawrth 2014
- rhoi ar waith o fis Ebrill 2014 ymlaen
Rolau a chyfrifoldebau
Mae strwythur llywodraethu ar waith i sicrhau cywirdeb yr adolygiad, yn ogystal â chynnig her annibynnol ac annog ymgysylltiad â rhanddeiliaid. Mae rheolwr rhaglen yn gyfrifol am reoli’r adolygiad o ddydd i ddydd.
- Bwrdd yr ASB fydd yn penderfynu pa opsiynau ac argymhellion fydd yn cael eu cyflwyno mewn ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu seilio ar fewnbwn gan y Bwrdd Rheoli Gweithredol. Bydd holl drafodaethau’r Bwrdd ar yr adolygiad yn cael eu cynnal mewn sesiynau agored.
- Bydd Bwrdd Rheoli Gweithredol yr ASB yn goruchwylio gwaith y rheolwr rhaglen, ac yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.
- Mae grŵp cynghori allanol wedi’i sefydlu er mwyn cynnig her annibynnol i’r tîm adolygu.
- At hynny, mae grŵp ymgynghori, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid allweddol, wedi’i sefydlu i ddarparu arbenigedd a gwybodaeth arbenigol.
Datblygiadau diweddar – Mawrth 2013
Trafododd Bwrdd yr ASB yr Adolygiad o’r Broses o Gyflwyno Rheolaethau Swyddogol ar 5 Mawrth 2013.
Cydnabu Bwrdd yr ASB gyfraniad gwerthfawr awdurdodau lleol wrth ddatblygu’r sail dystiolaeth, a thrafododd y canfyddiadau lefel uchel sy’n dod i’r amlwg. Ar y cyfan, mae’r dystiolaeth yn dangos bod awdurdodau lleol yn gallu darparu’r gwasanaeth hwn, er bod y system yn parhau i fod dan bwysau. Mae hefyd wedi tynnu sylw at yr angen i’r ASB gydweithio’n well ac wedi cynnig rhai awgrymiadau gwerthfawr ar sut y gallwn weithio gyda’n gilydd yn y dyfodol i sicrhau’r canlyniadau gorau o ran diogelu’r defnyddiwr.
Erys y broses o gyflwyno rheolaethau swyddogol a’r berthynas rhwng yr ASB ac awdurdodau lleol yn flaenoriaeth strategol bwysig ar gyfer yr ASB. Cytunodd y Bwrdd i ddod â’r adolygiad i ben a gofynnodd am bapur pellach ar sut y byddai’r gwaith hwnnw yn y dyfodol yn ystyried gwella’r system bresennol yn ei chyfanrwydd, gan adeiladu ar y dystiolaeth a gasglwyd a chan ymdrin ag amrywiaeth o faterion o ran beth sy’n cael ei gyflawni, a sut.
Mae fideo o drafodaeth y Bwrdd ar gael drwy'r ddolen isod.
More in this section
-
Adolygu Rheolaethau Swyddogol - Grŵp Cynghori Allanol
Sefydlwyd y Grŵp Cynghori Allanol i gynnig cyngor i Dîm y Rhaglen ac i'w herio.
-
Adolygu Rheolaethau Swyddogol - Grŵp Ymgynghori
Sefydlwyd Grŵp Ymgynghori er mwyn cynnig dull strwythuredig o ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol.
-
Adolygu'r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu rhoi ar waith: Cwestiynau cyffredin
