FSA in Wales
Beth yw gwaith yr Asiantaeth?
Mae'r ASB yn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddiogelwch bwyd, a hynny o'r fferm i'r fforc. Mae hefyd yn diogelu defnyddwyr drwy orfodi a monitro bwyd yn effeithiol.
Rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf
Ein gwaith:
Fel un o adrannau'r Llywodraeth, corff rheoleiddio annibynnol a chorff diogelu defnyddwyr, rydym ni’n defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael ac yn gweithio gyda:
- busnesau, o'r fferm i'r fforc, er mwyn eu helpu i gadw defnyddwyr yn ddiogel
- awdurdodau lleol a chyrff gorfodi cyfraith bwyd eraill er mwyn eu helpu i gymryd camau cymesur, amserol a phenderfynol
- defnyddwyr i roi gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol er mwyn eu helpu i wneud dewisiadau diogel am fwyd
Ein gwerthoedd:
Mae popeth a wnawn yn adlewyrchu ein gweledigaeth, sef ‘Bwyd diogel i bawb’
- rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf
- bod yn agored ac yn annibynnol
- yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth
- gweithredu’n annibynnol
- gorfodi cyfraith bwyd yn deg
Ein hegwyddorion ar waith:
Fel sefydliad, cyflogwr ac fel unigolion, rydym yn gwerthfawrogi:
- gonestrwydd, gwrthrychedd ac uniondeb
- herio ar gyfer gwelliant parhaus, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
- amrywiaeth, cydweithredu a pharch
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn annibynnol - sut felly?
Er bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn un o asiantaethau'r Llywodraeth, mae'n gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth gan nad yw'n atebol i weinidog penodol ac mae'n rhydd i gyhoeddi unrhyw gyngor mae'n ei roi.
Sut mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi'i strwythuro?
Arweinir yr Asiantaeth gan Fwrdd a benodwyd i weithredu er budd y cyhoedd ac nid i gynrychioli sectorau penodol. Mae gan aelodau'r Bwrdd ystod eang o sgiliau a phrofiad perthnasol.
Mae ein pencadlys yn y DU yn Llundain, ond mae gan yr Asiantaeth swyddfeydd cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chaerefrog hefyd.
I bwy mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn atebol?
Rydym yn atebol i'r Senedd drwy Weinidogion Iechyd, ac i'r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am ein gweithgareddau yn eu meysydd.
Sut mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gwneud ei phenderfyniadau?
Rydym yn seilio'n penderfyniadau a'n cyngor ar y dystiolaeth orau sydd ar gael. Ein nod yw sicrhau bod ein proses o wneud penderfyniadau mor agored a thryloyw â phosibl.
Lle y bo'n bosibl, rydym yn ceisio barn unigolion sydd â diddordeb cyn dod i gasgliadau, ac yn egluro’r rhesymau dros ein penderfyniadau a'n cyngor mewn ffordd syml bob amser.
Mae'r Asiantaeth yn cael cyngor annibynnol arbenigol gan ei phwyllgorau cynghori gwyddonol, ac mae'n comisiynu gwaith ymchwil i gefnogi ei swyddogaethau.
Strategaeth hyd at 2015
Dyma’r chwe chanlyniad y mae’r ASB yn gweithio tuag atynt:
- mae’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu neu ei werthu yn DU yn ddiogel i’w fwyta
- mae’r bwyd sy’n cael ei fewnforio yn ddiogel i’w fwyta
- mae cynhyrchwyr bwyd ac arlwywyr yn rhoi blaenoriaeth i fuddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd
- mae gan ddefnyddwyr yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch beth i’w fwyta a ble
- mae’r gwaith rheoleiddio yn effeithiol, yn seiliedig ar risg ac yn gymesur, yn glir ynghylch cyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd, ac yn diogelu defnyddwyr a’u buddiannau rhag twyll a pheryglon eraill
- mae’r gwaith gorfodi’n effeithiol, yn gyson, wedi’i seilio ar risg ac yn gymesur ac mae’n canolbwyntio ar wella iechyd y cyhoedd
Cyhoeddwyd y Strategaeth yn wreiddiol yn ôl ym mis Rhagfyr 2009, a chafodd ei diweddaru ym mis Mawrth 2011. Mae’r Strategaeth lawn ar ei newydd wedd ar gael drwy’r ddolen isod.
More in this section
-
Cod ymarfer ar weithredu'n agored
Mae gweithredu'n agored yn un o egwyddorion sylfaenol yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn defnyddio iaith glir ac yn cyfathrebu'n brydlon, byddwn yn esbonio'r rhesymau am ein penderfyniadau a'n cyngor, a byddwn yn cyhoeddi ein targedau a'n cyflawniadau yn eu herbyn.
-
Cynllun Cydraddoldeb Hiliol a Chynllun Gweithredu
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r Cynllun Cydraddoldeb Hiliol a Chynllun Gweithredu yr ASB. Ni fwriedir iddo fod yn arweiniad diamod ar gyfer staff. Bydd cyfarwyddyd ar wahân yn cael ei gynhyrchu, yn amlinellu beth sy'n rhaid i staff ei wneud i sicrhau eu bod y bodloni gofynion y Ddeddf newydd.
-
Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl
Mae'r ASB wedi gwella'i Chynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl. Ma'’r fersiwn ddiwygiedig yn disgrifio sut yr ydym yn bwriadu gwneud mwy i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl hyd at ddiwedd 2009.
-
Ein safonau
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella gwasanaethau cyhoeddus a'u gwneud yn fwy ymatebol i'w defnyddwyr. Mae'r safonau hyn yn amlinellu lefel y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
-
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Diogelu buddiannau'r defnyddiwr
Pwyllgor gwarchod annibynnol ar faterion diogelwch bwyd yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a sefydlwyd gan Ddeddf Senedd San Steffan yn 2000 i ddiogelu buddiannau defnyddwyr a iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd.
