Telerau ac amodau o ran gwybodaeth a gwasanaethau food.gov.uk/ratings

Os byddwch yn parhau i bori ac i ddefnyddio’r wybodaeth a’r gwasanaethau (gan gynnwys data’r sgoriau hylendid bwyd a’r rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau, API) ar wefan food.gov.uk/ratings, byddwch yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau ac amodau a ganlyn, ac i ymrwymo iddyn nhw.

Mae’r telerau ac amodau hyn, law yn llaw â’n polisi preifatrwydd, yn rheoli’r berthynas rhyngoch chi a’r Asiantaeth Safonau Bwyd o ran gwefan www.food.gov.uk/ratings a’i gwasanaethau. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio gwefan www.food.gov.uk/ratings na’r gwasanaethau a ddarperir ganddi.

Mae’r telerau a ganlyn yn berthnasol i unrhyw un sy’n defnyddio gwefan www.food.gov.uk/ratings a’i gwasanaethau:

1. Lle caiff brand y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), sydd ar waith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a brand y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd (FHIS), sydd ar waith yn yr Alban, eu defnyddio, ni ddylid ystyried bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cymeradwyo unrhyw fusnes bwyd unigol, cadwyn o fusnesau bwyd, gwefan, rhaglen ‘ap’ ar gyfer ffôn symudol, neu raglen ar-lein arall, ac ni ddylid ei bortreadu yn y modd hwnnw.

2. Dim ond yn unol â ‘Safon Brand’ y CSHB a chyda’r telerau ac amodau hyn y caniateir defnyddio’r delweddau. Dylech ddarllen Safon Brand y CSHB ac ymgyfarwyddo â hi (mae Adran 9 yn rhoi canllawiau am ddefnyddio brand y CSHB: www.food.gov.uk/fhrs-brand-standard.

3. Dylid atgoffa gweithredwyr busnesau bwyd a’r rhai sy’n defnyddio data a delweddau’r CSHB/FHIS y gall fod yn drosedd o dan ddeddfwriaeth safonau masnach os byddan nhw’n arddangos sgôr annilys neu’n defnyddio sgôr o’r fath mewn unrhyw ddeunydd hysbysebu neu gyhoeddusrwydd. Er enghraifft, gall fod yn drosedd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Gall y sgôr newid i adlewyrchu’r safonau a ganfyddir pan gaiff busnes ei asesu gan swyddogion diogelwch bwyd awdurdodau lleol pan fyddant yn arolygu neu’n ymweld â’r safle. Mae’r rhai sy’n defnyddio’r wybodaeth yn gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth/delweddau a ddefnyddir yn adlewyrchu sgôr bresennol y sefydliad.

4. Mae’r data hylendid bwyd ar gael drwy API. Darperir y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac nid oes angen cofrestru cyn ei ddefnyddio. Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn egluro a yw’r data yr ydych yn ei ddefnyddio’n deillio o’r data byw neu o’r data statig sy’n cael ei ddiweddaru bob dydd. Darllenwch ragor o fanylion am sut i ddefnyddio’r API: www.food.gov.uk/hygiene-rating-open-data.

5. Gall cynnwys tudalennau www.food.gov.uk/ratings newid heb unrhyw rybudd.

6. Mae www.food.gov.uk/ratings yn defnyddio cwcis i fonitro dewisiadau pori. Os byddwch yn caniatáu cwcis, gallwn storio gwybodaeth bersonol i’w defnyddio gan drydydd partïon. I gael rhagor o wybodaeth am y cwcis a ddefnyddir a’r wybodaeth bersonol a allai gael ei storio, darllenwch ein polisi cwcis: www.food.gov.uk/cookies-policy.

7. Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti’n darparu unrhyw warantiad neu warant o ran cywirdeb, prydlondeb, perfformiad, cyflawnder neu addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau a geir neu a gynigir ar www.food.gov.uk/ratings at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gallai gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys anghywirdebau neu wallau ac rydym yn gwrthod yn ffurfiol atebolrwydd am unrhyw anghywirdebau neu wallau o’r fath i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.

Rydych yn defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar www.food.gov.uk/ratings yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun ac ni fyddwn yn atebol am hynny. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod unrhyw wasanaeth neu wybodaeth sydd ar gael drwy www.food.gov.uk/ratings yn bodloni’r gofynion penodol ac yn enwedig eich bod yn egluro wrth y defnyddiwr fod y sgôr hylendid bwyd neu’r canlyniad arolygu a roddir i fusnes yn adlewyrchu’r safonau hylendid bwyd a oedd ar waith ar y dyddiad arolygu neu ar ddyddiad ymweliad yr awdurdod lleol.

8. Mae www.food.gov.uk/ratings yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni neu sy’n cael ei drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys y dyluniad, y cynllun, y golwg, yr ymddangosiad, y mapiau a’r graffeg, ond nid yw wedi’i gyfyngu i’r rhain. Ni chaniateir eu hatgynhyrchu ac eithrio’n unol â’r telerau ac amodau hyn a hysbysiad Hawlfraint y Goron. Darllenwch hysbysiad Hawlfraint y Goron: www.food.gov.uk/crown-copyright. Mae logos yr awdurdodau lleol yn eiddo i’r awdurdodau lleol a phe bai arnoch eisiau defnyddio logo awdurdod lleol, byddai angen i chi ofyn am ganiatâd yr awdurdod lleol hwnnw.

9. O ddefnyddio gwefan www.food.gov.uk/ratings a’i gwasanaethau heb ganiatâd, gall arwain at hawlio iawndal a/neu gall fod yn drosedd droseddol.

10. O bryd i’w gilydd, gall www.food.gov.uk/ratings hefyd gynnwys dolenni at wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi er mwyn darparu rhagor o wybodaeth. Nid ydyn nhw’n arwydd ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan/gwefannau allanol.

11. Rydych yn defnyddio gwefan www.food.gov.uk/ratings, a’i gwasanaethau, yn unol â deddfau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac mae’r deddfau hynny’n berthnasol i unrhyw anghydfod sy’n codi o ddefnyddio gwefan www.food.gov.uk/ratings a’i gwasanaethau.