FSA in Wales
Polisi Iaith Gymraeg
Mae Cynllun Iaith Gymraeg yr ASB yn disgrifio pa wasanaethau yr ydym yn eu darparu yn Gymraeg a sut a phryd y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu. Mae ein polisi iaith yn diwallu gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur yr iaith Gymraeg 2011.
'Rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf'
Ym mis hydref 2007, sefydlodd yr ASB Uned Iaith Gymraeg sy'n gyfrifol am bolisi iaith a darpariaeth Gymraeg yr Asiantaeth.
Gweler isod Gynllun Iaith cyfredol yr Asiantaeth. Mae'r Cynllun wedi'i ymestyn y tu hwnt i 2012, bydd yn parhau'n berthnasol hyd nes y bydd gofyn i'r ASB gydymffurfio â'r Safonau newydd a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod 2013.
More in this section
-
Cynllun Iaith Gymraeg (2008 - 2012)
Mae'r Cynllun hwn, a baratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn gosod llwyfan i'r Asiantaeth Safonau Bwyd barhau i adeiladu ar ei hymrwymiad i roi'r defnyddiwr yn gyntaf.
-
Cynllun Iaith Gymraeg (2002 - 2007)
Mae'r Cynllun hwn, a baratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, yn sbardun pellach i'r Asiantaeth Safonau Bwyd i gryfhau ei hymrwymiad i roi defnyddwyr yn gyntaf.
