Swyddi yn yr ASB

O dro i dro, bydd yr Asiantaeth yn hysbysebu amryw swyddi ar draws gwahanol raddau a disgyblaethau, a hynny drwy gystadleuaeth agored. Pan fydd swydd yn dod yn wag, bydd yn cael ei hysbysebu naill ai yn y wasg genedlaethol neu’r wasg arbenigol briodol. Bydd hefyd yn cael ei hysbysebu ar y wefan hon.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, waeth beth yw eu rhyw, statws anabledd, crefydd, cefndir ethnig, cyfeiriadedd rhywiol neu p’un a oes gennych ddibynyddion ai peidio.

Rydym hefyd yn cynnal Cynllun Gwarantu Cyfweliad i bobl ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol a gyhoeddir.