FSA in Wales
Swyddi sy'n wag ar hyn o bryd
O dro i dro, bydd yr Asiantaeth yn hysbysebu amryw swyddi ar draws gwahanol raddau a disgyblaethau, a hynny drwy gystadleuaeth agored. Pan fydd swydd yn dod yn wag, bydd yn cael ei hysbysebu naill ai yn y wasg genedlaethol neu’r wasg arbenigol briodol. Bydd hefyd yn cael ei hysbysebu ar y wefan hon. Mae manylion y swyddi sy'n wag ar hyn o bryd i'w gweld isod.
Mae Adran 10 y Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn mynnu bod penodiadau i’r Gwasanaeth Sifil yn cael eu gwneud yn ôl teilyngdod ac ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Dylid codi unrhyw gwynion â’r adan neu’r asiantaeth recriwtio yn gyntaf. Os yw’r achwynydd yn dal i fod yn anfodlon ar ôl ymchwiliad gan yr adran neu’r asiantaeth, gallant fynd â’u cwyn at y Comisiwn.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion cyswllt, ewch i wefan y Comisiwn:
http://civilservicecommission.independent.gov.uk
More in this section
-
Swyddog Cyfathrebu
Tuesday 12 February 2013
Mae’r swydd yn cefnogi gwaith cyfathrebu’r Asiantaeth yng Nghymru ar draws cyfryngau newydd a thraddodiadol, ymgyrchoedd a materion cyhoeddus.
