FSA in Wales
Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Prif rôl Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yw cynnig cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth am faterion sy'n ymwneud â'i swyddogaethau, gan gynnwys materion penodol sy'n effeithio ar Gymru.
O dan y gweithdrefnau gweithredu safonol, sefydlwyd y Pwyllgor Cynghori i roi cyngor neu wybodaeth i’r Asiantaeth, sydd yn ei thro yn cynghori’r awdurdodau priodol ar faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau yng Nghymru. Mae gofyn i’r Asiantaeth ystyried cyngor y Pwyllgor Cynghori wrth gyflawni ei swyddogaethau neu gynghori Gweinidogion.
Mae’r Pwyllgor Cynghori wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd agored a thryloyw a bydd yn cyhoeddi’r cyngor y mae’n ei ddarparu i’r Asiantaeth ar bolisi bwyd a’i weithredu (yn y cofnodion a restrir isod), lle nad yw’r cyngor hwnnw yn cael ei gyhoeddi drwy gyfrwng cofnodion y Bwrdd neu mewn modd arall.
Cyfarfodydd 2013
Dydd Iau 30 Mai – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd CF10 1EW
Dydd Iau 4 Gorffennaf – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd CF10 1EW
Dydd Iau 5 Medi – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd CF10 1EW
Dydd Iau 31 Hydref – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd CF10 1EW
Dydd Iau 5 Rhagfyr – Asiantaeth Safonau Bwyd, Swyddfa Caerdydd CF10 1EW
Dyddiadau'r Cyfarfodydd yn 2014
Dydd Iau 16 Ionawr 2014 – Asiantaeth Safonau Bwyd (I'w gadarnhau)
Dydd Iau 27 Chwefror 2014 – Asiantaeth Safonau Bwyd (I'w gadarnhau)
Dydd Iau 24 Ebrill 2014 – Asiantaeth Safonau Bwyd (I'w gadarnhau)
Dydd Iau 6 Mehefin 2014 – Asiantaeth Safonau Bwyd (I'w gadarnhau)
Dydd Iau 17 Gorffennaf 2014 – Asiantaeth Safonau Bwyd (I'w gadarnhau)
Dydd Iau 4 Medi 2014 – Asiantaeth Safonau Bwyd (I'w gadarnhau)
Dydd Iau 30 Hydref 2014 – Asiantaeth Safonau Bwyd (I'w gadarnhau)
Dydd Iau 11 Rhagfyr 2014 – Asiantaeth Safonau Bwyd (I'w gadarnhau)
Cofrestru eich diddordeb
Os ydych am gofrestru eich diddordeb mewn mynychu un o’r cyfarfodydd hyn, e-bostiwch: WalesAdminTeam@foodstandards.gsi.gov.uk (drwy ddatgan y dyddiad(au) sydd o ddiddordeb i chi)
More in this section
-
Cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Cyfarfodydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
-
Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
