Switch to English

Last updated on 30 Hydref 2001

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Cadeirydd – John Spence

Cyn ei ymddeoliad yn 2003, bu John Spence yn gweithio am dros 36 o flynyddoedd gyda llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr a rhan sylweddol o hynny ar lefel uwch a strategol mewn Awdurdodau Dosbarth ac, yn fwy diweddar, Awdurdodau Unedol.

Wedi cyfnod llwyddiannus fel Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Iechyd yn awdurdod unedol Abertawe, lle y goruchwyliodd nifer o newidiadau strwythurol cymhleth, cafodd gynnig swydd newydd fel Dirprwy Brif Weithredwr, cyn symud ymlaen i fod yn Brif Weithredwr dros dro y Cyngor. Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynodd broses cynllunio corfforaethol ledled yr awdurdod law yn llaw â system rheoli perfformiad a hunan arfarnu.

Mae John wedi bod yn ymgynghorydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn gyn-gadeirydd ar Dîm Gweithredu ar Gyffuriau ac Alcohol rhanbarthol yng Nghymru. Mae hefyd wedi bod yn ymgynghorydd i Fwrdd Adolygu Iechyd y Cyhoedd Prif Swyddog Meddygol y Cynulliad ac wedi gwasanaethu ar nifer o gyrff cynghori cenedlaethol. Mae’n gyn-lywydd ar Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ac wedi bod yn Gadeirydd ar Gydweithrediaeth Cymru dros Iechyd a'r Amgylchedd a Chymdeithas Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd (Cymru).

Ers ymddeol, mae John yn parhau â’i waith gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus fel ymgynghorydd yng Nghymru (yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru), Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Ms Kate Hovers – tan 30 Mehefin 2013

Mae Kate Hovers yn Filfeddyg wedi’i lleoli yn ardal Aberhonddu. Fe raddiodd o Lerpwl yn 1983 ac ennill tystysgrif mewn iechyd a chynhyrchu defaid yn 1996. Bu’n rhedeg ei phractis rhywogaethau cymysg ei hun am 13 mlynedd. Mae nawr yn gweithio fel ymgynghorydd defaid, milfeddyg locwm ac ymgynghorydd milfeddygol rhan amser ar anifeiliaid mawr i gwmni fferyllol. Mae’n ysgrifennu ambell i erthygl ar gyfer y wasg ffermio ac yn rhoi sgyrsiau, fel arfer ar iechyd defaid a meddyginiaeth amddiffynnol. Mae hi’n gyn-arweinydd ar Gymdeithas y Milfeddygon Defaid ac adran De Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain. Mae’n byw ac yn helpu ar fferm ddefaid ei phartner ym Mannau Brycheiniog.

Dr. Hugh Jones

Mae Hugh Jones yn Uwch Ddarlithydd mewn Geneteg a Bioleg Moleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl mynd i’r ysgol yng Nghastell-nedd, astudiodd ar gyfer gradd mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ar ôl hyn gwnaeth Ph.D. a chymrodoriaeth ymchwil. Yna symudodd i Goleg Imperial, Llundain i wneud gwaith ôl-ddoethuriaeth pellach mewn peirianneg protein cyn dychwelyd i Dde Cymru i gael swydd academaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil mewn bioleg moleciwlaidd protein yn bennaf, yn enwedig proteinau sy’n rhwymo carbohydradau, ac sy’n cynnwys technegau DNA ailgyfuno. Mae wedi cymhwyso rhywfaint o’r gwaith hwn i fiosynhwyryddion glwcos a diagnosteg diabetes. Mae Hugh yn addysgu strwythur/swyddogaeth protein, trin genetig a microbioleg sylfaenol i fyfyrwyr sy’n gwneud gradd mewn Geneteg, Biocemeg a’r Gwyddorau Biolegol. Mae’n aelod o Gymdeithas Microbioleg Cyffredinol, y Gymdeithas Fiocemegol a’r Gymdeithas Protein.

Mae Hugh wedi bod yn gysylltiedig â hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth yng Nghymru trwy helpu i drefnu’r arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ag Abertawe yn 2006. Fel Llywodraethwr Ysgol a rhiant tri o blant oed cynradd ac uwchradd mae’n cael ei atgoffa’n barhaus o realaeth ddyddiol bwyta’n iach.

Dr Louise Fielding

Pennaeth Adran Gwyddorau Bywyd Cymhwysol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yw Louise Fielding. Enillodd Dr Fielding radd BSc (Anrhydedd) mewn Technoleg Bwyd (1990) a PhD mewn Microbioleg Bwyd (1995) o Brifysgol Reading. Mae'n addysgu israddedigion ac ôl-raddedigion mewn hylendid a microbioleg bwyd, biotechnoleg bwyd, prosesu bwyd a diogelwch bwyd cymhwysol. Mae Dr Fielding hefyd yn goruchwylio nifer o ymchwilwyr mewn meysydd fel dadlygru bioaerosol, systemau rheoli ansawdd mewn busnesau cynhyrchu bwyd bach ac agweddau cymhwysol ar lanhau a dadlygru.

Mae Dr Fielding yn archwilydd trydydd parti cymwys i Safon Bwyd Byd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain. Mae'n Gymrawd y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd, yn aelod o bwyllgor Grŵp Datblygu Proffesiynol Ansawdd a Diogelwch Dŵr y Gymdeithas Ryngwladol er Diogelwch Bwyd (IAFP) ac yn Is-lywydd cangen yr IAFP yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn aelod o'r Gymdeithas ar gyfer Microbioleg Gymhwysol a Chymdeithas Microbioleg Cymru.

Steve Bolchover – tan 30 Mehefin 2013

Gwasanaethodd Steve Bolchover ar lefel Prif Swyddog mewn llywodraeth leol am dros 20 mlynedd nes iddo ymddeol yn 2005. Daeth o Gyngor Rhanbarthol Strathclyde yn wreiddiol i fod yn Swyddog Safonau Masnach Sirol ar gyfer Gorllewin Morgannwg ac yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 daeth yn bennaeth gwasanaeth iechyd yr amgylchedd a safonau masnach yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae ganddo 35 mlynedd o brofiad o weithio ym maes safonau masnach a diogelu defnyddwyr. Treuliodd hefyd bedair blynedd yn gweithio gyda LACOTS (LACORS bellach), corff canolog llywodraeth leol, yn helpu i gyflwyno systemau newydd i’r DU ar gyfer rheoli nwyddau wedi eu pecynnu, a bu’n gynghorydd i LACORS a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ers ymddeol bu’n adolygydd lleyg i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mae ganddo radd mewn Söoleg o Brifysgol Rhydychen a gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Strathclyde. Mae ganddo ddiddordeb mewn materion amgylcheddol ac mae’n ymwneud â’r materion hyn, ef yw cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, ac mae’n agos gysylltiedig â gwaith bioamrywiaeth yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’n entomolegydd amatur brwd, ef yw cofnodydd Sir Forgannwg ar gyfer Coleoptera. Mae’n Rotariad hefyd ac mae’n agos gysylltiedig â materion gwleidyddol a chymunedol lleol, ef yw cadeirydd pwyllgor rheoli ei neuadd gymunedol leol, ac ef yw cadeirydd y gymdeithas efeillio leol.

Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau darllen, tai chi, canu caneuon clasurol ar y gitâr, bwyd a diod da, gweithio gyda phren ac amser gyda’i deulu.

Mr Derek Morgan

Ffermwr cig eidion a defaid ucheldir yw Derek, sy’n gyfrifol am redeg fferm ucheldir deuluol o ddydd i ddydd yn Nyffryn Gwy uchaf gan fagu defaid Cymreig a gwartheg duon pedigri Cymreig. Ef yw Cadeirydd pwyllgor ffermio’r bryniau Undeb Amaethwyr Cymru sy’n cynrychioli’r undeb ar ystod eang o grwpiau rhanddeiliaid gyda phwyslais penodol ar faterion yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, olrhain anifeiliaid, gwybodaeth am enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a’r gadwyn fwyd.

Mae Derek yn aelod ac yn gadeirydd Fforwm yr Ucheldir Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynghori ar faterion yn ymwneud â materion yr ucheldir. Ef oedd un o gyfranogwyr cyntaf ffermydd Arddangos Adnoddau Technolegol Ryngweithiol. Mae Derek yn ysgolhaig ym maes strategaeth defaid Cymreig ac ymwelodd â Seland Newydd ym 1999 gan deithio i’r ddwy ynys gan ymchwilio i raglenni ymchwil ar sawl fferm.

Ef yw aelod gwreiddiol, cyfarwyddwr a chadeirydd presennol Cymdeithas Cŵn Defaid Cymru, a sefydlwyd ym 1997, i achub y ci defaid Cymreig cynhenid. Mae hefyd yn aelod o fwrdd prosiect hyatid Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mrs Sue Jones

Sue Jones yw perchennog a sylfaenydd gwneuthurwyr caws Llanboidy, un o’r gwneuthurwyr caws arbenigol bach a chanolig eu maint mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, ac mae wedi cymryd rhan uniongyrchol ym mhob agwedd ar wneud a marchnata cawsiau ffermdy am y 24 blynedd diwethaf.

Hi yw cyfarwyddwr menter gydweithredol Cawsiau o Gymru, mae’n aelod o bwyllgor Cymdeithas Gwneuthurwyr Cawsiau Arbenigol y DU ac yn ddiweddar cafodd MBE am ei gwasanaethau i Ddiwydiant Caws Cymru.

Mae’n ffermwraig odro sydd wedi ymddeol, yn gyn-lywydd Cymdeithas Gwartheg Red Poll ac yn gyn-gadeirydd cangen leol Arberth o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Mae Sue hefyd gweithio’n agos â Grŵp Strategaeth Laeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, a hynny fel aelod ers y cychwyn cyntaf.

Cafodd ei hethol fel Cymrawd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol (Cymru) sawl blwyddyn yn ôl ac yn ddiweddar cafodd ei gwobrwyo â Chymrodoriaeth y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (FRAgS).

Mae Sue yn credu'n gryf mewn cadw ei thraed yn gadarn ar y ddaear o ran y farchnad ac anghenion defnyddwyr ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn hyrwyddo hunaniaeth ranbarthol, diogelwch ac ansawdd bwyd Cymreig. Yn ystod ei bywyd gwaith mae hi wedi bod â chysylltiad agos â chyflwyniad a goblygiadau deddfwriaeth diogelwch bwyd.

Dr Norma Barry MBA, FRSA, FCMI, MIOD – o 1 Gorffennaf 2013 ymlaen

Roedd Norma Barry yn arfer gweithio fel Uwch Was Sifil yn y Swyddfa Gymreig gynt ac i Lywodraeth Cymru wedi hynny. Mae ei phrofiad ym meysydd polisi a gweithredu yn cynnwys y gadwyn fwyd o’r fferm i’r fforc. Yn ei rôl yn y Llywodraeth, roedd Norma yn ymwneud â datblygiad strategol a marchnata’r sectorau cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod. Cyn hynny, roedd hi’n gyfrifol am gefnogi twf ac amrywiaeth busnesau fferm, tra hefyd yn diogelu iechyd y cyhoedd drwy ddatblygu polisïau i atal clefydau anifeiliaid a phlanhigion rhag lledaenu. Mae hi hefyd wedi ymdrin â pholisïau mewn perthynas â masnacheiddio cnydau sydd wedi’u haddasu’n enetig, sy’n gallu bod yn bwnc sensitif iawn yn wleidyddol.

Mae Norma bellach yn rhedeg ei chwmni ei hun, InsideOut: Organisational Solutions sy’n cyflenwi amrywiaeth eang o wasanaethau i sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol, yn ogystal â chwmnïau preifat. Mae hi’n angerddol am arwain a rheoli, ac wedi cyhoeddi llyfr yn ddiweddar ar reoli pobl yn llwyddiannus.

Mae gan Norma brofiad helaeth o lywodraeth ganolog a gwybodaeth eang am yr heriau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol sy’n wynebu Cymru. Mae hi wedi gweithio mewn nifer o feysydd polisi gan gynnwys materion gwledig, adfywio cymunedau, arian Ewropeaidd, ynni, TGCh, busnes a’r amgylchedd, cysylltiadau coleg cwmnïau a gwasanaethau cymdeithasol. O’r herwydd, mae ganddi sgiliau cysylltiadau cyhoeddus effeithiol a chaiff ei hadnabod am ei gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth eang o bobl.

Ar wahân i’w hymrwymiadau gwaith, mae hi’n aelod o Glas Cymru, yn Aelod o Bwyllgor Cyngor Gofal Cymru ac yn Aelod o Lys Prifysgol Cymru.

David Peace – o 1 Gorffennaf 2013 ymlaen

Mae David Peace wedi cael gyrfa reoli helaeth yn y diwydiant bwyd a ffermio. Yn dilyn ei hyfforddiant busnes cynnar gyda dau o'r cwmnïau tybaco rhyngwladol mwyaf, ymunodd David ag is-adran diwydiant dofednod Union International. Symudodd wedyn i'r diwydiant cig coch gyda Borthwicks PLC cyn ymuno ag is-adran gweithgynhyrchu bwyd Booker PLC, gan gyflenwi bwyd wedi'i baratoi i fanwerthwyr mwyaf y DU. Ar yr adeg hon, derbyniodd gynnig i ymuno ag ADAS fel Pennaeth Bwyd dros gyfnod o dair blynedd yn arwain at y broses breifateiddio, gan aros am flwyddyn ar ôl cwblhau'r broses.

Yn dilyn ei gyfnod yn ADAS, penodwyd David i'w rôl fel Prif Weithredwr cychwynnol Assured British Meat, sef corff a grëwyd mewn ymateb i'r argyfwng BSE. Yn y pen draw, daeth y corff yn rhan o fenter Safonau Sicrwydd Bwyd y Tractor Coch (RTA), sydd bellach yn geidwad ar y rhan fwyaf o safonau sicrwydd fferm y brif ffrwd yn y DU. Yna treuliodd naw mlynedd fel Rheolwr Gyfarwyddwr Soil Association Certification Limited (SACL), sef is-gwmni ardystio elusen Cymdeithas y Pridd, sy'n gyfrifol am ardystio mwy na 80% o fwyd organig y DU.

Yn ystod 2010, aeth David ati, gyda chefnogaeth ariannol gan gwmni ecwiti preifat, i ffurfio menter busnes ardystio newydd o'r enw Certus Compliance Group Ltd. Y nod oedd caffael busnesau ardystio yn y sector bwyd a sectorau cysylltiedig, ac yntau'n Brif Weithredwr. Daeth caffaeliad cyntaf Certus, SFQC Ltd (Scottish Food Quality Certification), ym mis Mehefin 2011.

Gyda dyfodiad 2012, symudodd David o Certus er mwyn datblygu ei waith ymgynghori a'i waith anweithredol. Mae wedi cyflawni sawl rôl yn y cyd-destun hwn: aelod o ACOS (Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig), cyfarwyddwr Genesis Quality Assurance, aelod bwrdd llywodraethol Biokontroll Kft, sef prif gwmni ardystio organig Hwngari a chynghorwr ardystio i'r BPI (The British Recorded Music Industry) mewn perthynas â'r cynllun ardystio 'Music Matters'.