Cynllun Rheoli Cenedlaethol y Deyrnas Unedig

Mae Cynllun Rheoli Cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn disgrifio rolau a chyfrifoldebau'r awdurdodau gwahanol a chyrff cysylltiedig sy'n ymwneud â monitro cydymffurfiaeth â chyfreithiau bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau iechyd a lles anifeiliaid a gofynion iechyd planhigion, a'r modd y cânt eu gorfodi.

Mae hefyd yn rhoi cipolwg o'r ffordd y mae’r awdurdodau hyn a’r cyrff eraill yn cydweithio i ddiogelu iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion, a diogelu defnyddwyr a hybu lles anifeiliaid.

Mae amcanion strategol a gweithgareddau’r awdurdodau amrywiol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer cyfnod y cynllun yn cael eu disgrifio hefyd.

Mae Cynllun Rheoli Cenedlaethol cyntaf y DU wedi'i baratoi ar y cyd gan yr Asiantaeth, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) ac Adrannau Amaeth/Materion Gwledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n berthnasol i’r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2007 a 31 Mawrth 2012.

Mwy am y Cynllun

Mae Cynllun y DU yn bodloni un o ofynion Rheoliad rhif 882/2004 yr UE ar reolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid, bwyd, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, sef bod yn rhaid i bob Aelod-wladwriaeth feddu ar gynllun rheoli cenedlaethol tair i bum mlynedd erbyn 1 Ionawr 2007. Y Cynllun fydd sail yr asesiadau o berfformiad systemau rheoli cenedlaethol y DU gan wasanaethau arolygu'r Comisiwn Ewropeaidd.

Yr hyn yr ydym am ei gyflawni

Prif amcanion y Cynllun Rheoli Cenedlaethol yw sicrhau bod cyfreithiau’r Gymuned Ewropeaidd ar fwyd a bwyd anifeiliaid, iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid, ac iechyd planhigion yn cael eu gweithredu yn y DU a bod systemau effeithiol (systemau rheoli swyddogol) ar waith ar gyfer monitro sut y cydymffurfir â’r rheolau amrywiol, a’u gorfodi. Bydd hyn yn cyfrannu at ddiogelu iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion, at ddiogelu buddiannau defnyddwyr, ac at hybu lles anifeiliaid.

Cydweithio

Er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, iechyd anifeiliaid ac iechyd planhigion, diogelu defnyddwyr a hybu lles anifeiliaid, mae’n hollbwysig fod yr awdurdodau amrywiol a chyrff eraill sy’n gysylltiedig â gweithredu rheolaethau swyddogol yn cydlynu eu gweithgareddau ac yn cydweithio â’i gilydd, er mwyn sicrhau nad oes dim bylchau, a’u bod yn cydweithredu’n effeithiol.

Mae nifer o fesurau wedi cael eu rhoi ar waith i hwyluso hyn ac er mwyn delio ag argyfyngau.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • pwyllgorau a grwpiau cyswllt amrywiol wedi a sefydlwyd gan yr awdurdodau canolog ar gyfer trafod materion yn ymwneud â gorfodi
  • darparu canllawiau a chodau ymarfer ar gyfer swyddogion gorfodi
  • datblygu cynlluniau wrth gefn a chynlluniau argyfwng
  • trefniadau penodol ar gyfer cydgysylltu â’r Comisiwn Ewropeaidd a’r awdurdodau yn yr Aelod-wladwriaethau eraill.

Yn y sector bwyd a bwyd anifeiliaid a’r sector iechyd a lles anifeiliaid, mae'r Asiantaeth, Defra ac Adrannau Amaethyddiaeth/Materion Gwledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cydgysylltu ag Uned Cymorth Rheoleiddio'r Grŵp Llywodraeth Leol. Mae’r Uned yn rhoi cymorth i gynghorau ar wasanaethau rheoleiddio drwy ddosbarthu gwybodaeth bwysig, amserol a pherthnasol drwy gyfrwng gwefan a gwasanaeth e-bost, rhannu arferion da a helpu gwasanaethau rheoleiddio ar y rheng flaen i gyflawni canlyniadau gwell.

Bydd yr Uned hefyd yn gweithio gydag asiantaethau’r llywodraeth i sicrhau bod yr asiantaethau a gwasanaethau rheoleiddio llywodraeth leol yn cyd-weithio’n effeithiol.

Codi safonau a rhannu arferion da

Gydag unrhyw system o reolaethau cyfreithiol, mae effeithiolrwydd cyfreithiau bwyd a bwyd anifeiliaid a rheolau iechyd a lles anifeiliaid, yn dibynnu ar ba mor dda y mae’r gofynion deddfwriaethol yn cael eu monitro a’u gorfodi. Er mwyn sicrhau bod yr awdurdodau cymwys yn darparu gwasanaeth effeithiol a chyson, mae deddfwriaeth Ewropeaidd yn mynnu bod eu perfformiad yn cael ei archwilio.

Mewn rhai meysydd, er enghraifft gwasanaethau gorfodi cyfreithiau bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol, mae cynllun archwilio wedi’i sefydlu eisoes.

Mae hwn yn asesu sut mae gwasanaethau'n perfformio yn ôl safon ddiffiniedig ac mae hefyd yn anelu at ganfod a lledaenu arferion da. Mae'r cynllun yn destun proses graffu annibynnol. Mae mesurau ar waith i sicrhau tryloywder ar gyfer rhanddeiliaid perthnasol.

Ar gyfer awdurdodau eraill, mae trefniadau archwilio a fydd yn dilyn yr un egwyddorion, wrthi’n cael eu sefydlu.

Pwy sy’n gwneud beth

Yn y DU, mae’r cyfrifoldeb gweithredol dros reolaethau swyddogol bwyd a bwyd anifeiliaid wedi’i ganoli. Yn ymarferol, mae’r cyfrifoldeb o ddydd i ddydd wedi’i rannu rhwng y Llywodraeth ganolog a Llywodraeth leol.

Yr awdurdodau canolog yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Defra (a'i hasiantaethau), ac Adrannau Amaeth/Materion Gwledig y Gweinyddiaethau Datganoledig.

Ond mae prif gorff cyfraith bwyd yn cael ei fonitro a’i orfodi yn y DU gan awdurdodau lleol. Mae hyn hefyd yn wir am gyfraith bwyd anifeiliaid ym Mhrydain. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r swyddogaeth hon yn cael ei chyflawni gan yr Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig.

Mae’r sefyllfa’n debyg ar gyfer rheolaethau iechyd a lles anifeiliaid. Defra a'i Hadrannau cyfatebol yn y Gweinyddiaethau Datganoledig sydd â’r cyfrifoldeb canolog, gyda’r gwaith o ddydd i ddydd yn cael ei wneud gan yr Adrannau canolog (neu eu hasiantaethau) ac awdurdodau lleol.

Yn y sector iechyd planhigion, Gwasanaeth Iechyd Planhigion y DU sy’n gyfrifol am reolaethau: nifer o unedau yn Defra, ynghyd â’r Comisiwn Coedwigaeth ac Adrannau Amaeth/Materion Gwledig y Gweinyddiaethau Datganoledig.

Gelwir Adrannau amrywiol y Llywodraeth ganolog a Llywodraeth leol sy'n gyfrifol am drefnu ac ymgymryd â rheolaethau swyddogol yn 'awdurdodau cymwys’.

Cânt eu cynorthwyo gan labordai Ymchwil Cenedlaethol a swyddogol, a hefyd gan nifer o drydydd partïon annibynnol (‘cyrff rheoli’) y mae tasgau rheoli penodol wedi cael eu dirprwyo iddynt.

Rhannu agenda

Dros gyfnod y Cynllun Rheoli Cenedlaethol, bydd yr awdurdodau canolog a lleol amrywiol yn datblygu ac yn gweithredu agenda ar y cyd. Bydd yr agenda hon yn helpu i sicrhau bod systemau effeithiol o reolaethau swyddogol ar waith yn y sectorau bwyd a bwyd anifeiliaid, iechyd a lles anifeiliaid, ac iechyd planhigion.

Y prif ganlyniad a gynlluniwyd ar gyfer gorfodi yn y Cynllun Strategol ar gyfer 2010-2015 yw y dylai fod yn ‘effeithiol, yn gyson, yn seiliedig ar risg, yn gymesur ac yn canolbwyntio ar wella iechyd y cyhoedd.'

Yn ystod gweddill cyfnod y Cynllun Rheoli Cenedlaethol presennol, bydd yr Asiantaeth yn gweithio mewn partneriaeth gyda'i randdeiliaid yn y diwydiant, yn y maes gorfodi a defnyddwyr i gyflawni amcanion Cynllun Strategol 2010-2015.

At hynny, bydd Defra ac Adrannau Amaeth/Materion Gwledig y Gweinyddiaethau Datganoledig yn gweithio gyda’u partneriaid cyflenwi a rhanddeiliaid yn y diwydiant i ddiogelu iechyd anifeiliaid, hybu lles anifeiliaid, a rheoli’r rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid hynny sy'n dod dan eu cylch gwaith.

Bydd yr unedau amrywiol sy’n ffurfio Gwasanaeth Iechyd Planhigion y DU yn parhau i gydweithio i ddiogelu cefn gwlad ac i gyfrannu at ffermio a bwyd cynaliadwy.

Monitro a rhoi gwybod am ein cynnydd

Mae’r cynnydd sy'n cael ei wneud ar weithredu'r Cynllun Rheoli Cenedlaethol yn cael ei fonitro'n barhaus a rhaid paratoi a chyflwyno adroddiadau blynyddol i’r Comisiwn Ewropeaidd (gweler isod).

Mae’r broses adolygu ac adrodd yn cael ei chydgysylltu gan yr Asiantaeth ar y cyd â Defra a'i hasiantaethau ac Adrannau Amaeth/Materion Gwledig y Gweinyddiaethau Datganoledig.

Mae’r Cynllun Rheoli Cenedlaethol yn cael ei reoli’n rhagweithiol ac yn cael ei ddiweddaru yn ôl yr angen. Mae’r gwaith adrodd wedi’i seilio ar y blaenoriaethau strategol a ddisgrifir ym Mhennod 2.

Adroddiadau cynnydd blynyddol

Dan Reoliad 882/2004, mae’n rhaid i Aelod-wladwriaethau ddarparu adroddiad i’r Comisiwn Ewropeaidd bob blwyddyn. Mae gofyn i’r adroddiad nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran gweithredu a chyflawni amcanion y Cynllun Rheoli Cenedlaethol drwy asesu effeithiolrwydd a datblygiad y systemau a’r trefniadau rheoli ar gyfer yr awdurdodau cymwys a’r cyrff eraill sy’n gysylltiedig â’r rheolaethau swyddogol.

Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu defnyddio gan wasanaethau arolygu'r Comisiwn Ewropeaidd, sef y Swyddfa Bwyd a Milfeddygaeth, i gynllunio'i archwiliadau o'r trefniadau rheoli yn yr Aelod-wladwriaethau. At hynny, bydd yr adroddiadau hyn, ynghyd ag adroddiadau tebyg a baratoir gan Aelod-wladwriaethau eraill, yn cyfrannu at adroddiad gan y Comisiwn Ewropeaidd i Gyngor a Senedd Ewrop ar weithrediad cyffredinol y rheolaethau swyddogol ledled y Gymuned Ewropeaidd.

Mae’r adroddiadau blynyddol ar y cynnydd tuag at weithredu Cynllun Rheoli Cenedlaethol y DU, sydd wedi cael eu cyflwyno i’r Comisiwn, i’w gweld isod (Saesneg yn unig).