Gorfodi a Rheoleiddio

Survey

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cydweithio'n agos â swyddogion gorfodi cyfraith bwyd mewn awdurdodau lleol i sicrhau y cydymffurfir â chyfraith bwyd o'r fferm i'r fforc.

Mae'n cynnig cyngor ar amrywiaeth o faterion gorfodi, gan amlinellu hawliau a chyfrifoldebau awdurdodau gorfodi a busnesau bwyd. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod diogelwch bwyd a gofynion cyfreithiol yn cael eu cynnal a'u monitro

Mae rhagor o fanylion am waith Gorfodi'r Asiantaeth i'w gael isod.

More in this section

  • Adnoddau Gorfodi

    Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio gyda swyddogion gorfodi i sicrhau bod cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael ei gweithredu ar draws y gadwyn fwyd gyfan.

  • Adnoddau Hylendid

    Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd am i bob busnes bwyd gael safonau hylendid da. Rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys Bwyd mwy diogel, busnes gwell, i helpu busnesau bwyd - gan gynnwys y rhai sy'n dechrau o'r newydd - i gydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd. Mae detholiad o'r adnoddau hyn ar gael isod.

  • Adroddiadau Archwilio: Cymru

    Gwybodaeth am archwiliadau a gynhaliwyd yng Nghymru.

  • Cynlluniau Sgorio Hylendid Bwyd

    Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, wrthi'n cyflwyno'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a'r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban. Mae'r cynlluniau yn helpu'r cyhoedd i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth iddynt am safonau hylendid mewn bwytai, caffis, siopau tecawê, gwestai a siopau bwyd.

  • Monitro

    Er mwyn sicrhau bod diogelwch bwyd yn cael ei fonitro ar bob cam o'r gadwyn fwyd, mae'r Asiantaeth yn darparu cyngor, deunyddiau cefnogi ymarferol a chyllid ar gyfer cynnal rhaglenni arolygu a samplu ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol.

  • Rheoliadau a deddfwriaeth

    Mae cynhyrchu, prosesu, dosbarthu, manwerthu, pecynnu a labelu bwydydd yn brosesau a gaiff eu llywodraethu gan nifer helaeth o gyfreithiau, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau. Cliciwch ar un o'r opsiynau isod i gael rhagor o wybodaeth.