Adroddiadau Archwilio: Cymru

Gwybodaeth am archwiliadau a gynhaliwyd yng Nghymru.

Gofodi Cyfraith Bwyd

Mae archwiliadau o wasanaethau gorfodi cyfraith bwyd awdurdodau lleol yn rhan o drefniadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd i wella diogelwch a hyder defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Mae'r trefniadau hyn yn cydnabod mai cyfrifoldeb Gwasabaethau Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd awdurdodau lleol yn bennaf yw gorfodi cyfraith bwyd y DU mewn perthynas â diogelwch, hylendid, cyfansoddiad a labelu bwyd, ynghyd â bwyd wedi'i fewnforio a bwydydd anifeiliaid.

Mae adrodidadau archwilio yn edrych ar Wasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd yr awdurdoau lleol.

Mae'r asesiad yn cynnwys y trefniadau lleol sydd ar y gweill er mwyn arolygu busnesau bwyd, samplu a dadansoddi bwyd, rheolaeth fewnol, gwaith i hyrwyddo diogelwch bwyd a gweithgareddau addysgiadol.

Dylid cydnabod y bydd cryn amrywiaeth yn y ffyrdd y bydd awdurdodau lleol yn mynd ati i ddarparu eu gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd, a hynny mewn ymateb i flaenoriaethau ac anghenion lleol.

Mae archwiliadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn asesu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol yn erbyn y Safon Gorfodi Cyfraith Bwyd ('Y Safon') a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth yn 2001 fel rhan o'i Chytundeb Fframwaith ag Awdurdodau Lleol o ran Gorfodi Cyfraith Bwyd.

Mae'r Asiantaeth yn cyhoeddi'r adroddiadau archwilio, yn cynnwys cynlluniau gweithredu a baratoir gan yr Awdurdodau, er mwyn mynd i'r afael â chanfyddiadau'r archwiliadau.

More in this section