Cynlluniau Sgorio Hylendid Bwyd

Welsh (Cymraeg) Food Hygiene Rating Scheme logo

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, wrthi'n cyflwyno'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a'r Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban. Mae'r cynlluniau yn helpu'r cyhoedd i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd drwy roi gwybodaeth iddynt am safonau hylendid mewn bwytai, caffis, siopau tecawê, gwestai a siopau bwyd.

Mae’r cynllun hefyd yn annog busnesau i wella safonau hylendid. Prif nod y cynllun yw lleihau nifer yr achosion o salwch a gludir gan fwyd.

Gallwch chwilio am wybodaeth am safonau hylendid mewn bwytai, siopau tecawê a siopau bwyd drwy ymweld â food.gov.uk/ratings – clicliwch ar ‘Cymraeg’.

Mae’r Asiantaeth yn cydweithio ag awdurdodau lleol i annog cymaint ohonynt â phosibl i gynnal y cynllun cenedlaethol, fel y gall y cyhoedd gymharu sgoriau hylendid busnesau bwyd yn eu hardal hwy a thu hwnt.

Gall pob awdurdod lleol ddewis p’un a yw am gymryd rhan ai peidio, ond mae'r niferoedd yn cynyddu drwy'r amser. Mae'r cynllun bellach ar waith ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru ac mewn llawer o ardaloedd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae rhai awdurdodau lleol yn dal i gynnal eu ‘cynlluniau lleol’ eu hunain (caiff y rhain yn aml eu galw’n gynlluniau ‘scores on the doors’).

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau lleol hyn.

More in this section