FSA in Wales
Adnoddau ar gyfer awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r cynllun cenedlaethol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
Mae'r Asiantaeth wedi cynhyrchu ystod o ganllawiau a deunyddiau i helpu awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd cenedlaethol.
Os hoffech wybod mwy am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, cysylltwch â Thîm Gorfodi yr Asiantaeth Saofnau Bwyd yng Nghymru drwy e-bostio fhrs.wales@foodstandards.gsi.gov.uk neu mae croeso i chi gysylltu â'r Uned Iaith Gymraeg drwy e-bostio welsh.translation@foodstandards.gsi.gov.uk i drafod y mater drwy gyfrwng y Gymraeg.
More in this section
-
Adnoddau ar gyfer rhoi gwybod i'r cyhoedd, busnesau ac aelodau’r cyngor am y cynllun cenedlaethol
Friday 5 March 2010
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi creu templedi llythyrau a thaflenni y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i roi gwybod i'r cyhoedd a gweithredwyr busnesau bwyd bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar waith yn eu ardal nhw. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar gyfer briffio aelodau cyngor etholedig.
-
Canllawiau ar fesurau diogelu a ffurflenni safonol ar gyfer busnesau
Wednesday 6 October 2010
Er mwyn sicrhau bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn deg i fusnesau, mae'n cynnwys nifer o fesurau diogelu, sef y broses apelio, 'hawl i ymateb' a chyfle i wneud cais am ail-ymweliad ar ôl gweithredu'r gwelliannau.
-
Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol – Cyflwyno a gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: ‘Safon y Brand’
Tuesday 13 December 2011
Canllawiau wedi'u cydgrynhoi yw'r rhain sydd wedi'u hardystio gan Grŵp Llywio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Maent yn dwyn ynghyd yr holl ganllawiau blaenorol a gyhoeddwyd fel fersiynau drafft, a hynny mewn dogfen cwestiwn ac ateb. Mae’r canllawiau yn mynd i’r afael â phob agwedd ar gyflwyno a gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
-
Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol – Brandio
Monday 20 December 2010
Rydym bellach wedi cytuno ar frand y Cynllun, sy’n adlewyrchu canfyddiadau gwaith ymchwil annibynnol a gynhaliwyd ymhlith defnyddwyr.
-
Pecyn Cymorth Cyfathrebu y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd
Wednesday 27 April 2011
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi datblygu pecyn cymorth i ddarparu cyngor cyfathrebu i awdurdodau lleol ar gyflwyno'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Mae'n cynnwys gwybodaeth am negeseuon allweddol, syniadau am gyfathrebu â busnesau, templedi ar gyfer datganiadau i'r wasg a sut i gael rhagor o wybodaeth.
