FSA in Wales
Cynlluniau sgorio hylendid bwyd 'lleol' yn y DU
Mae nifer o wahanol gynlluniau sgorio hylendid bwyd 'lleol' yn dal i fod ar waith mewn rhai ardaloedd yn y DU. Nid yw'r cynlluniau hyn, sydd hefyd yn rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd am safonau hylendid mewn safleoedd bwyd, yn rhan o'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon nac ychwaith y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban.
Mae’r cynlluniau ‘lleol’ yn amrywio – o ran eu cwmpas (mathau o fusnesau sy’n rhan ohonynt), y system sgorio a ddefnyddir (nifer yr haenau a’r symbolau a’r disgrifiadau cysylltiedig e.e. dull tair a phum seren, wynebau hapus a systemau goleuadau traffig) a pholisi o ran ailarolygiadau ac ailymweliadau at ddibenion ailsgorio. At hynny, mae rhai cynlluniau ‘lleol’ yn darparu sticeri a thystysgrifau i’w harddangos ar sail wirfoddol gan fusnesau ar eu safleoedd, ond mae llawer o’r cynlluniau ‘lleol’ yn adnoddau ar-lein yn unig. Mae’r rhan helaeth o gynlluniau ‘lleol’ yn seiliedig ar system sgorio chwe haen (pum seren, a gradd ‘methu’) er nad yw’r rhain yr un peth bob tro.
I gael rhagor o wybodaeth am wahanol gynlluniau ‘lleol’ ledled y DU, cliciwch ar y map isod. Gan fod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi dewis mabwysiadu’r cynllun cenedlaethol, nid oes cynlluniau ‘lleol’ o’r fath ar waith yng Nghymru.
Yr Alban
Cymru
Gogledd Iwerddon
De Ddwyrain Lloegr
De Orllewin Lloegr
Siroedd y Dwyrain
Dwyrain Canolbarth Lloegr
Gorllewin Canolbarth Lloegr
Swydd Efrog a Humber
Gogledd Orllewin Lloegr
Gogledd Ddwyrain Lloegr
Llundain
