Gwerthusiad o'r dull o arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru wedi comisiynu astudiaeth feintiol ar raddfa fach i ymchwilio i weld a yw busnesau Cymru'n arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd.

Cefndir

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru wedi comisiynu astudiaeth feintiol ar raddfa fach i ymchwilio i weld a yw busnesau Cymru’n arddangos eu sgoriau hylendid bwyd ar eu safleoedd.

Nod y cynlluniau sgorio hylendid bwyd yw rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr am safonau hylendid busnesau bwyd pan fydd swyddogion diogelwch bwyd yr Awdurdodau Lleol yn eu harchwilio. Diben y cynlluniau yw sicrhau bod modd i ddefnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus a, thrwy hynny, annog busnesau nad ydyn nhw’n cydymffurfio i wella’u safonau hylendid.

Caiff sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) eu harddangos ar wefan www.food.gov.uk/ratingswww.food.gov.uk/ratings – cliciwch ar ‘Cymraeg’. Mae’r busnesau’n cael sticeri a/neu dystysgrifau ac mae’r Awdurdodau Lleol yn eu hannog i’w harddangos ar eu safleoedd (er nad yw hyn yn orfodol ar hyn o bryd).

Dull

Nod yr astudiaeth oedd ceisio amcangyfrif i ba raddau y mae sticeri’r CSHB yn cael eu harddangos ar safleoedd bwyd a deall yr hyn sy’n cymell busnesau i’w harddangos ai peidio. Cynhaliwyd yr astudiaeth mewn dwy ran, sef archwiliad i bennu’r cyfraddau arddangos ac arolwg dros y ffôn ymhlith busnesau bwyd.

Bu cwsmer cudd yn ymweld â sampl o fusnesau bwyd sy’n agored i’r cyhoedd a gafodd eu harchwilio o dan y CSHB. Bu’r cwsmer cudd yn cofnodi a oedd sticer y CSHB yn bresennol ai peidio, ynghyd â lleoliad y sticer. Dim ond os nad oedd modd gweld sticer y CSHB o’r tu allan y bu i’r cwsmer cudd fynd i mewn i’r safle. O blith sampl o 494 safle, cafodd 447 eu harchwilio.

Yn ystod ail ran yr astudiaeth, cynhaliwyd 500 o gyfweliadau dros y ffôn gyda staff sy’n gyfrifol am drin a thrafod bwyd a hylendid bwyd mewn busnesau bwyd a gafodd eu sgorio o dan y CSHB. Yn ystod y cyfweliadau, casglwyd gwybodaeth am y rhesymau dros arddangos sticeri ai peidio, effaith arddangos sticeri ac, mewn achosion lle na chafodd sticeri’u harddangos, yr hyn a fyddai’n eu cymell i’w harddangos. Cynhaliwyd 298 o gyfweliadau dros y ffôn gyda’r safleoedd hynny a gafodd eu harchwilio yn ystod cam cyntaf y gwaith ymchwil.

Canlyniadau

Mae’r ymchwil yn dangos mai dim ond 6% o’r busnesau bwyd yn y sampl a gafodd sgôr o 0, 1 neu 2 o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd sy’n arddangos eu sgoriau ar eu safleoedd, a hynny o’i gymharu â 66% o’r busnesau a gafodd sgôr o 5. Fodd bynnag, o blith y busnesau hynny a oedd wedi penderfynu arddangos eu sgoriau, roedd 77% o’r rheiny’n hawdd i’w gweld ar y safle pan fu’r ‘cwsmer cudd’ yn ymweld.

Cynhaliwyd yr ymchwil ar ran yr Asiantaeth gan GfK NOP yn ystod mis Medi a mis Hydref 2011. Roedd i’r ymchwil ddau gam – yn gyntaf, archwiliad gan ddefnyddio’r dechneg ‘cwsmer cudd’, ac yn ail, arolwg dros y ffôn. Bu’r cwsmer cudd yn ymweld â chyfanswm o 447 o fusnesau bwyd ledled Cymru a oedd wedi cael sgôr hylendid bwyd gan eu hawdurdod lleol, a chynhaliwyd 500 o gyfweliadau dros y ffôn. O blith y cyfweliadau hyn, cafodd 298 o fusnesau bwyd eu harchwilio a’u cyfweld. Ymhlith amcanion y cyfweliad oedd pennu’r rhesymau dros beidio ag arddangos sticeri a’r hyn a fyddai’n cymell busnesau i’w harddangos yn y dyfodol.

Canfu’r cyfweliadau dros y ffôn y byddai 41% o’r busnesau hynny nad ydyn nhw’n arddangos eu sticeri sgôr ar hyn o bryd yn arddangos eu sticeri pe baen nhw wedi cael gwell sgôr. Dywedodd 16% arall y bydden nhw’n arddangos eu sticeri pe bai’n orfodol iddyn nhw wneud hynny.

Mae adroddiad terfynol y gwaith ymchwil ar gael drwy'r ddolen isod (Saesneg yn unig).

Final research report