FSA in Wales
Grŵp Llywio Cynllun 'Scores on the Doors' y DU Gyfan
Sefydlwyd Grŵp Llywio Cynllun 'Scores on the Doors' y DU Gyfan i gynghori'r Asiantaeth am ddatblygiad y cynllun cenedlaethol a'r camau i'w weithredu.
Yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2008, penderfynodd Bwrdd yr Asiantaeth y dylid sefydlu cynllun cenedlaethol chwe haen yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac y dylai cynllun dwy haen barhau yn yr Alban. Cytunodd y Bwrdd y dylid sefydlu Grŵp Llywio’r DU Gyfan i roi cyngor ac arweiniad am ddatblygiad y cynlluniau.
Sefydlwyd y grŵp llywio gyda golwg ar ddysgu ar y cyd a defnyddio dull cyffredin, cyhyd ag y bo modd. Yn y diwydiant bwyd y mae cefndir cadeirydd y grŵp, Steven Esom, ac mae cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y diwydiant bwyd a’r Asiantaeth, yn ogystal â defnyddwyr, ymhlith aelodau’r grŵp.
I gael rhagor o fanylion am y grŵp llywio, gan gynnwys ei gylch gorchwyl a’i raglen waith, cliciwch ar un o’r dolenni isod.
More in this section
-
Aelodau Grŵp Llywio Cynllun 'Scores on the Doors' y DU Gyfan
Wednesday 20 January 2010
Diweddarwyd fis Medi 2009
-
Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol – Cyflwyno a gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: ‘Safon y Brand’
Tuesday 13 December 2011
Canllawiau wedi'u cydgrynhoi yw'r rhain sydd wedi'u hardystio gan Grŵp Llywio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Maent yn dwyn ynghyd yr holl ganllawiau blaenorol a gyhoeddwyd fel fersiynau drafft, a hynny mewn dogfen cwestiwn ac ateb. Mae’r canllawiau yn mynd i’r afael â phob agwedd ar gyflwyno a gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.
-
Cylch gorchwyl Grŵp Llywio Cynllun ‘Scores on the Doors’ y DU Gyfan
Wednesday 20 January 2010
Cyhoeddwyd y cylch gorchwyl ym mis Ebrill 2009.
