FSA in Wales
Last updated on 20 January 2010
Cylch gorchwyl Grŵp Llywio Cynllun ‘Scores on the Doors’ y DU Gyfan
Cyhoeddwyd y cylch gorchwyl ym mis Ebrill 2009.
Rhoi cyngor ac arweiniad ynghylch datblygu, cyflwyno a gweithredu cynllun cenedlaethol chwe haen ‘Scores on the Doors’ yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon a’r cynllun dwy haen a fydd yn parhau yn yr Alban, gyda golwg ar ddysgu ar y cyd a defnyddio dull cyffredin, cyhyd ag y bo modd. Yn arbennig, rhoi cyngor ac arweiniad sy’n sylfaen i benderfyniadau’r Asiantaeth am fframwaith sylfaenol y cynlluniau, fel y cytunodd Bwrdd yr Asiantaeth yn ei gyfarfod ar 10 Rhagfyr 2008, gan gyfeirio’n benodol at:
- eithriadadau i fusnesau ‘risg isel’ na chânt eu hystyried yn gyffredinol gan ddefnyddwyr fel busnesau bwyd (e.e. siopau trin gwallt) neu fusnesau penodol sy’n gweithredu o gyfeiriadau preifat (fel gwarchodwyr plant).
- o ran cynllun Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, dull o olrhain y sgôr o Atodiad 5 y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (gan ddefnyddio sgoriau o ran hylendid, strwythur a hyder yn y rheolwyr) sy’n sicrhau nad yw’r cynllun dim ond yn asesu’r safonau yn erbyn arferion gorau yn hytrach na’r gofynion cyfreithiol.
- y potensial i ddatblygu dull cyffredin o olrhain y sgôr o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd ar gyfer y ddau gynllun.
- o ran cynllun Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, system o fapio’r sgôr i’r chwe haen (i’w defnyddio i gyflwyno’r sgôr i’r defnyddwyr) ac i wahaniaethu rhwng yr haenau (i sicrhau eglurder i fusnesau).
- dull o gynnal ailarolygiad/ailymweliad at ddibenion ailsgorio a’r amodau.
- safon ddata i’w defnyddio gyda’r platfform cenedlaethol ar y we i gefnogi’r ddau gynllun ac i sicrhau eu bod mor hygyrch â phosib i ddefnyddwyr a’u bod yn eu deall.
- arweiniad am ddyluniad y cynlluniau a’r modd y byddant yn gweithredu i sicrhau cysondeb o ran eu gweithredu.
- amserlen i roi’r cynlluniau ar waith.
- strategaeth fudo i’r rheini sydd eisoes yn gweithredu cynllun er mwyn iddynt drosglwyddo i’r cynllun priodol.
- cyfrannu at ddatblygu Asesiad Effaith y ddau gynllun.
Bydd cyfle hefyd i’r grŵp llywio drafod cynigion yr Asiantaeth o ran y materion a ganlyn, a rhoi sylwadau arnynt:
- ymchwil ymysg defnyddwyr o ran yr opsiynau ar gyfer symbolau a disgrifyddion
- strategaeth gyfathrebu barhaus â’r rhanddeiliaid
- gweithgareddau marchnata a hyrwyddo
- cynlluniau gwerthuso a monitro
- datblygu platfform TG y cynlluniau ‘Scores on the Doors’
Bydd un neu ragor o weithgorau’n cynorthwyo’r Grŵp Llywio a chânt eu sefydlu yn ôl y galw i drafod manylion penodol. Bydd gweithgorau o’r fath yn cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant yn ogystal â swyddogion gorfodi, swyddogion yr Asiantaeth a defnyddwyr.
Bydd y Grŵp hefyd yn fforwm i drafod yn y dyfodol faterion sy’n ymwneud â’r cynlluniau ‘Scores on the Doors’ ac i ddatrys unrhyw broblemau sy’n codi o weithredu’r cynllun cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon pan fydd ar waith, a’r cynllun dwy haen yn yr Alban wrth iddo barhau i gael ei gyflwyno.
