Adnoddau Hylendid

washing hands in a sink

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd am i bob busnes bwyd gael safonau hylendid da. Rydym yn darparu amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys Bwyd mwy diogel, busnes gwell, i helpu busnesau bwyd - gan gynnwys y rhai sy'n dechrau o'r newydd - i gydymffurfio â deddfwriaeth hylendid bwyd. Mae detholiad o'r adnoddau hyn ar gael isod.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae eu swyddogion diogelwch bwyd yn darparu cyngor gwerthfawr yn uniongyrchol i fusnesau'r DU, yn hyrwyddo ein hadnoddau ac yn helpu busnesau i'w rhoi ar waith.

Ymgyrch i fusnesau 2010

Rhwng Ionawr 25 a dydd Llun 1 Mawrth 2010, bydd yr Asiantaeth yn cynnal ymgyrch ledled y DU gyfan, i godi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau bwyd am yr adnoddau sydd ar gael gan yr Asiantaeth i helpu busnesau i gydymffurfio â chyfraith hylendid bwyd. Bydd yr ymgyrch yn cynnwys posteri, sydd ar gael drwy’r dolenni isod, hysbysebion radio, ac ymdrechion hyrwyddo ar-lein, a bydd yn targedu busnesau arlwyo sy’n cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr – megis bwytai, siopau tecawê a chaffis.

Cynllun 'Scores on the Doors'

Efallai y byddai hefyd o ddiddordeb i chi ddarllen mwy am gynllun 'Food hygiene Rating Scheme' yr Asiantaeth, sef cynllun sgorio safonau hylendid busnesau yn arbennig ar gyfer defnyddwyr.

More in this section

  • Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB)

    Friday 6 February 2009

    Mae Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) yn becyn sy'n cynnig ffordd arloesol ac ymarferol i reoli diogelwch bwyd. Nod y pecyn hwn yw helpu busnesau bach i roi gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith, a'u helpu hefyd i gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd.

  • Cofrestru eich busnes bwyd

    Wednesday 20 January 2010

    Wrth sefydlu busnes bwyd newydd, mae’n bwysig iawn gwneud yn siŵr bod popeth fel ag y dylai fod ar y dechrau gan y bydd hyn yn gwneud bywyd yn haws i chi wrth i chi redeg eich busnes yn dda yn y dyfodol. Rhaid i chi gofrestru eich safle gyda gwasanaeth iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn agor – cewch gofrestru yn rhad ac am ddim.

  • Dechrau Busnes: Eich camau cyntaf i ddechrau busnes arlwyo

    Wednesday 20 January 2010

    Mae'r llyfryn hwn yn addas ar gyfer pobl sy'n sefydlu bwyty, caffi neu unrhyw fusnes arlwyo arall. Mae'n berthnasol i chi os ydych chi'n dechrau busnes newydd sbon neu'n cymryd yr awenau mewn busnes sydd eisoes wedi ei sefydlu.