Newyddion

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i chwilio am newyddion neu sgroliwch drwy’r archif straeon newyddion.

Chwilio am straeon newyddion Cymraeg

  1. 4 wythnos ddiwethaf
  2. 2013
  3. 2012

Chwilio am straeon newyddion Cymraeg fesul dyddiad

Chwilio am straeon newyddion Cymraeg fesul dyddiad

Y straeon newyddion diweddaraf yn Gymraeg

  • Astudiaeth arloesol ar alergedd i bysgnau

    Dydd Mawrth 21 Mai 2013

    Oes gennych chi alergedd i bysgnau? Os felly, fe allwch chi gymryd rhan mewn astudiaeth glinigol arloesol sy’n cael ei chomisiynu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a fydd yn canfod, am y tro cyntaf erioed, sut mae ffactorau allanol megis ymarfer corff a straen yn effeithio ar sensitifrwydd i bysgnau.

  • Gwahoddiad i fynychu cyfarfod agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

    Dydd Llun 13 Mai 2013

    Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal ei gyfarfod agored nesaf yng Nghaerdydd ddydd Iau, 30 Mai 2013.

  • Comisiwn yn cynnig diwygio rheoliadau bwyd a bwyd anifeiliaid

    Dydd Iau 9 Mai 2013

    Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi cynigion i newid y ddeddfwriaeth bresennol sy’n llywodraethu rheolaethau swyddogol yn y diwydiannau bwyd ac amaeth. Mae’n bosibl y bydd y cynlluniau arfaethedig yn effeithio ar yr holl sefydliadau sy’n ymwneud â chynhyrchu, gweithgynhyrchu, cyflenwi a rheoleiddio bwyd, bwyd anifeiliaid, anifeiliaid byw, planhigion a deunydd atgynhyrchiol planhigion.

  • Arolwg i bwyso a mesur agweddau at drin cig

    Dydd Mercher 1 Mai 2013

    Mae modd lleihau’r risg o wenwyn bwyd drwy ddefnyddio triniaethau dadhalogi ar gig amrwd mewn lladd-dai. Mewn arolwg a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), aeth defnyddwyr ati i fynegi eu barn am y triniaethau a fyddai’n dderbyniol yn eu tyb nhw.

  • Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

    Dydd Llun 29 Ebrill 2013

    Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, y Gweinidogion Iechyd yng Nghymru a’r Alban a’r Gweinidog Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd yng Ngogledd Iwerddon yn gobeithio penodi Cadeirydd ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).