FSA in Wales
Last updated on 7 Awst 2012
ASB yn rhybuddio yn erbyn DMAA
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori pobl i beidio â bwyta cynhyrchion sy'n cynnwys y sylwedd DMAA (1,3-dimethylamylamine), ar ôl i nifer o bobl ledled y byd gael adwaith negyddol i gynhyrchion sy'n cynnwys DMAA.
Mae'r ASB yn ymwybodol bod cynhyrchion sy'n cynnwys DMAA yn cael eu gwerthu yn y DU fel ychwanegion i'w bwyta neu yfed cyn ymarfer corff. Cânt eu marchnata weithiau fel ychwanegion sy'n llosgi braster.
Mae DMAA yn gyfnerthydd (stimulant), nad oes lefel ddiogel o ran ei fwyta wedi'i phennu. Mae cynhyrchion sy'n cynnwys DMAA wedi'u tynnu oddi ar y silffoedd mewn amryw wledydd ar draws yr Undeb Ewropeaidd a ledled y byd. Mae DMAA wedi'i gysylltu â phwysau gwaed uchel, cyfog, gwaedlif ar yr ymennydd, strôc a marwolaeth.
Lle bo DMAA yn bresennol mewn cynnyrch, gall fod wedi'i restru ar y pecyn fel:
- 1,3-dimethylamylamine
- DMAA
- geranium extract
- geranamine
- methylhexanamine
- 4-methylhexane-2-amine
Mae'r ASB yn cydweithio'n agos ag awdurdodau gorfodi i sicrhau nad yw ychwanegion bwyd sy'n cynnwys DMAA ar werth mewn siopau. Cynghorir defnyddwyr hefyd i beidio â phrynu cynhyrchion neu ychwanegion sy'n cynnwys DMAA oddi ar y we ychwaith. Os ydych chi wedi bwyta neu yfed cynhyrchion sy'n cynnwys DMAA ac yn teimlo'n sâl, cysylltwch â'ch meddyg teulu.
