Switch to English

Last updated on 22 Awst 2012

Diweddariad ar 'Smokies’

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ysgrifennu at Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yn ceisio eglurhad ar ei farn o ran cynhyrchu cig defaid â'r croen ynghlwm – a elwir hefyd yn ‘smokies’.

Caifff smokies eu bwyta gan rai cymunedau ethnig lleiafrifol yn y DU. Fodd bynnag, ni chaniateir eu cynhyrchu'n gyfreithlon yn y DU gan fod deddfwriaeth hylendid yn mynnu bod y croen yn cael ei dynnu oddi ar yr holl rannau o gorff y ddafad y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl, ac eithrio'r pen a'r traed.

Ym mis Mai 2010, ysgrifennodd yr ASB at y Comisiwn Ewropeaidd yn gofyn i gael newid cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a fyddai'n caniatáu i smokies gael eu cynhyrchu, ar ôl i ymchwiliadau'r Asiantaeth ddangos bod modd cynhyrchu smokies mewn ffordd hylan. Gofynnodd y Comisiwn i EFSA am ei farn wyddonol am astudiaethau'r ASB.

Cydnabu safbwynt EFSA, a gyhoeddwyd ar 15 Mehefin 2011, fod yr astudiaethau a ariannwyd gan yr ASB wedi disgrifio dull hylan o gynhyrchu smokies. Fodd bynnag, canfu EFSA nad oedd yr astudiaethau yn ddigonol i gefnogi'r casgliad bod y smokies a gynhyrchwyd yn ystod yr ymchwiliadau yn addas i'w bwyta gan bobl.

Derbyniodd y Comisiwn farn EFSA, gan ddatgan nad oedd canfyddiadau'r ASB yn rhoi sail ar gyfer diwygio'r ddeddfwriaeth. Nododd y Comisiwn, fodd bynnag, y byddai'n hapus i drafod y mater hwn ymhellach.

Mae'r Asiantaeth bellach wedi ysgrifennu at EFSA yn ceisio eglurhad o'i ddehongliad o'r data, gyda'r nod o lywio unrhyw waith a fyddai'n cael ei wneud ar y maes hwn yn y dyfodol a llywio trafodaethau'r Asiantaeth gyda'r diwydiant o ran y camau nesaf ar gyfer y prosiect hwn. Y bwriad yw nodi pa ddata ychwanegol fyddai ei angen er mwyn cael cynnal asesiad digonol o'r broses.
Gellir gweld copi llawn o'r llythyr at EFSA drwy'r ddolen hon.****** Mae'r Asiantaeth yn deall bod y cais hwn am eglurhad yn cael ei ystyried gan ddau o Baneli Gwyddonol EFSA, a disgwylir i ymateb ddod i law ym mis Hydref 2012.