FSA in Wales
Last updated on 9 Awst 2012
Y Gemau euraid
Mae Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn dirwyn i ben, mae'r Gemau Paralympaidd ar y gorwel, ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi'i thrydydd cylchlythyr Chwarae'n Ddiogel ar gyfer rhanddeiliaid, gan gynnwys busnesau bwyd, grwpiau arlwyo a sefydliadau twristiaeth.
Mae'r rhifyn Olympaidd hwn yn rhoi manylion am y cymorth diogelwch bwyd sydd ar gael gan Dîm Digwyddiadau'r Asiantaeth. Bydd y tîm ar gael yn ystod oriau estynedig, a hynny saith diwrnod yr wythnos. Gall busnesau bwyd, swyddogion gorfodi lleol a'r cyhoedd gysylltu â hwy am gyngor ar faterion diogelwch bwyd, megis gwenwyn bwyd, halogi a thwyll bwyd.
Mae'r cylchlythyr hefyd yn cynnwys cyfweliad â swyddog iechyd porthladdoedd yn Llundain, sy'n esbonio'r paratoadau sydd wedi'u cynnal cyn y Gemau.
Mae'r cylchlythyr a rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Chwarae'n Ddiogel ar gael isod.
