Switch to English

Last updated on 2 Gorffennaf 2012

Agos i’r llinell derfyn

Gyda Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain yn prysur agosáu, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi’i hail gylchlythyr Chwarae’n Ddiogel ar gyfer rhanddeiliaid, gan gynnwys busnesau bwyd, grwpiau arlwyo a sefydliadau twristiaeth.

Mae’n cynnwys manylion am y drafodaeth ar Twitter â Sarah Appleby, Pennaeth Gorfodi’r Asiantaeth, a fydd yn cael ei chynnal ddydd Gwener, 13 Gorffennaf rhwng 3-4pm. Mae busnesau bwyd yn cael eu hannog i drydar cwestiynau am ddiogelwch bwyd yn ystod y Gemau at @playitsafefood a chael ateb ar unwaith oddi wrth Sarah.

Mae’r cylchlythyr hefyd yn rhoi cyngor ar ddiogelwch bwyd, yn cynnwys y newyddion diweddaraf ar y Tîm Diogelwch Bwyd, ac yn galw ar fusnesau bwyd i roi gwybod i ni sut y maent yn paratoi ar gyfer y Gemau.

Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrch Chwarae’n Ddiogel ar gael drwy’r ddolen isod.

Related Items