FSA in Wales
Last updated on 25 Gorffennaf 2012
Dim angen mentro wrth fwyta allan
Mae bron i dri o bob pedwar person yn barod i fentro gyda diogelwch bwyd wrth fwyta allan, yn ôl arolwg o fwy na 2,000 o bobl a gynhaliwyd ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Dywedodd mwy na chwarter y rheiny a holwyd (26%) eu bod yn barod i fentro mwy wrth fwyta allan ar eu gwyliau. Mae mwy nag un o bob saith (15%) yn mentro gyda bwyd mewn digwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth, a dywedodd 28% eu bod fwyaf tebygol o fentro gyda bwyd yn dilyn noson allan. Dim ond 28% a ddywedodd na fyddant byth yn mentro gyda’u bwyd.
Wrth i Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 gynnig llu o gyfleoedd i fwyta allan a mwynhau’r bwyd sydd ar gael yn Llundain a ledled y wlad, mae’r Asiantaeth yn atgoffa pawb i ddiogelu’u hiechyd drwy sicrhau bod y bwyd y maent yn ei fwyta yn ddiogel.
Meddai Sarah Appleby, Pennaeth Gorfodi yn yr ASB: ‘Drwy ein hymgyrch Chwarae’n Ddiogel, rydym yn dathlu’r bwyd sydd ar gael yn y DU ac yn annog pobl i beidio â chymryd y risg o ddifetha diwrnod neu noswaith wych allan yn ystod y Gemau.’
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal ymgyrch Chwarae’n Ddiogel er mwyn sicrhau bod yr holl fwyd a gaiff ei brynu, ei goginio a’i fwyta yr haf hwn yn ddiogel. Mae cyngor ar fwyta’n fwy diogel ar gyfer ymwelwyr i’r Gemau ar gael drwy’r ddolen isod.
