FSA in Wales
Last updated on 27 Gorffennaf 2012
Ar eich marciau, barod, ewch!
Wedi hir aros, mae'n ddiwrnod seremoni agoriadol Llundain 2012, ac mae Prydain yn barod am y Gemau.
Mae'r Asiantaeth hithau wedi cwblhau ei pharatoadau diogelwch bwyd, drwy ddarparu offer profi dŵr i longau sydd wedi'u docio yn Llundain yn ystod y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd.
Ac er bod yr Asiantaeth yn gobeithio na fydd unrhyw gorddi dyfroedd o ran diogelwch bwyd yn ystod y Gemau, bydd ei staff yn yr Uned Ddigwyddiadau ar gael o fore gwyn tan nos er mwyn mynd i'r afael รข gwenwyn bwyd, halogi a thwyll bwyd, pe digwydd iddynt godi.
I gael rhagor o fanylion am baratoadau diogelwch bwyd yr Asiantaeth ar gyfer y Gemau, cymrwch gip ar gylchlythyr e-News yr ASB, sydd ar gael drwy'r ddolen isod.
Un o'r prosiectau yr ydym wedi canolbwyntio arno wrth baratoi ar gyfer y Gemau yw'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Mae'r Cynllun hwn eisoes wedi'i fabwysiadu gan holl Awdurdodau Lleol Cymru, ac wedi'i ymestyn yn helaeth ledled Llundain. Mae tri chwarter o fwrdeistrefi Llundain bellach wedi cyflwyno'r cynllun hwn.
Mae'r Asiantaeth hefyd wedi bod sicrhau bod ei harbenigedd yn cael ei rhannu ag ardaloedd lle nad oes digwyddiadau Olympaidd yn cael eu cynnal.
Mae Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd ASB yn yr Alban bellach wedi cyrraedd yr Iwerydd, wrth iddo gael ei gyflwyno yn ynysfor St Kilda – sef y man mwyaf anghysbell Ynysoedd Prydain. Yn nes at y cyhydedd, mae un o filfeddygon yr ASB, Massimo Rescigno, bellach yn gennad staff rhyngwladol cyntaf yr ASB. Mae Massimo yn gweithio gyda'r elusen Farm Africa i hyfforddi ffermwyr yn Kenya i wella safonau bwyd.
Gallwch danysgrifio i dderbyn negeseuon e-bost pan fydd rhifyn newydd o e-News yr ASB yn cael ei gyhoeddi drwy'r ddolen isod. Bydd y rhifyn nesaf ar gael ym mis Medi.
