FSA in Wales
Last updated on 19 Gorffennaf 2012
Penodi Catherine Brown yn Brif Weithredwr
Mae Jeff Rooker, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, wedi cyhoeddi bod Catherine Brown wedi'i phenodi yn Brif Weithredwr newydd yr ASB.
Ar hyn o bryd, mae Catherine Brown yn Brif Weithredwr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol (AHVLA), asiantaeth weithredol o Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Bydd Catherine Brown yn dechrau yn y swydd ym mis Hydref. Bydd hi’n olynu Tim Smith, sydd wedi bod yn Brif weithredwr ers mis Mawrth 2008.
Mae Catherine wedi bod yn Brif Weithredwr yn AHVLA ers mis Ebrill 2011 pan unodd y ddau sefydliad. Bu’n Brif Weithredwr Iechyd Anifeiliaid ers 2008. Cyn ymuno ag Iechyd Anifeiliaid, roedd Catherine yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn BUPA ac mae hi hefyd wedi gweithio i’r GIG ac Unilever.
Meddai Jeff Rooker am y penodiad: 'Mae’r Bwrdd a minnau yn falch o groesawu Catherine i’r ASB.
'Mae profiad a chefndir eang Catherine, yn y sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd, yn ategu ein hegwyddorion craidd a bydd yr ASB yn elwa ar hyn wrth i ni symud ymlaen. Bydd yr Asiantaeth yn elwa hefyd ar ei phrofiad o weithio a chyflawni amcanion mewn amgylchedd datganoledig.
'Mae’r Bwrdd a minnau yn edrych ymlaen at weithio gyda Catherine a sicrhau bod yr ASB yn parhau i ddiogelu’r defnyddiwr, gan reoleiddio’r diwydiant bwyd a gorfodi’r safonau.
'Ar ran y Bwrdd, hoffwn ddiolch i Tim Smith am ei waith gwerthfawr a llwyddiannus yn yr ASB. Mae Tim wedi goruchwylio trosglwyddiad effeithiol y Gwasanaeth Hylendid Cig i’r ASB, gan sicrhau bod y gwaith pwysig o sicrhau hylendid cig wrth wraidd yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae hefyd wedi rhoi mwy o sylw i’n rôl yn y broses o orfodi cyfraith bwyd. Mae Tim wedi sicrhau ein bod ni’n sefydliad mwy cynnil ac effeithlon, heb gyfaddawdu ar ddiogelwch bwyd a hyder defnyddwyr. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddo.'
Ychwanegodd Catherine Brown: 'Rwy’n falch o ymuno â’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae’n sefydliad ag ymrwymiad cadarn i ddiogelu buddiannau defnyddwyr, ac sy’n gosod gwyddoniaeth a thystiolaeth wrth wraidd ei waith. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â staff a rhanddeiliaid yr ASB a helpu i gyfrannu at ei waith pwysig.'
Cefndir
Cafodd Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd ei recriwtio ar sail cystadleuaeth deg ac agored ac yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil, sydd ar gael drwy’r ddolen isod.
Cyflog blynyddol y swydd fydd £140,000.
Bydd y penodiad yn para tair blynedd, gyda’r posibilrwydd o ailbenodi.
