Switch to English

Last updated on 27 Gorffennaf 2012

Mae pethau'n dechrau poethi...

barbecue

Wrth i rannau o'r DU groesawu'r haul o'r diwedd, ac wrth i'r tymheredd godi, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn atgoffa pobl i fod yn fwy gofalus fyth gyda'u bwyd.

Mae achosion o wenwyn bwyd yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf, gan fod bygiau gwenwyn bwyd yn tyfu'n gynt yn y gwres. Mae bwyta bwyd barbeciw neu bicnic yn yr awyr agored hefyd yn peri risgiau ychwanegol o wenwyn bwyd. Mae gan yr ASB gyngor defnyddiol ar ddiogelwch bwyd er mwyn helpu pobl i sicrhau bod eu prydau yr haf yn gwbl ddi-helynt.

Meddai Bob Martin, arbenigwr diogelwch bwyd yn yr ASB: 'Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n mwynhau barbeciw, ac nid ydym yn aml cael tywydd digon ar eu cyfer. Os ydych chi'n bwriadu cael barbeciw, peidiwch â gadael i fygiau gwenwyn bwyd ddifetha'r peth i chi. Gallwch gymryd camau hawdd er mwyn osgoi bod ymhlith y miloedd o bobl sy'n cael gwenwyn bwyd bob blwyddyn.'

Bwyta'n fwy diogel

  • Cofiwch goginio cyw iâr, porc, byrgyrs, selsig a chebabs tan eu bod yn stemio'n boeth drwyddynt. Ni ddylai'r cig fod yn binc a dylai'r suddion redeg yn glir.
  • Os ydych chi'n paratoi barbeciw ar gyfer llawer o bobl, beth am goginio'r cig yn y popty neu'r ffwrn, ac yna gorffen ei goginio ar y barbeciw er mwyn rhoi blas iddo.
  • Os ydych yn ailgynhesu bwyd ar y barbeciw, gofalwch ei fod yn stemio'n boeth drwyddo cyn ei weini.
  • Dylech marineiddio cig yn yr oergell, ac nid ar dymheredd yr ystafell. Peidiwch ag ail-ddefnyddio'r marinêd, na'i arllwys dros gig sydd wedi'i goginio oni bai bod y marinêd wedi'i goginio'n drylwyr hefyd.
  • Gall cig amrwd gynnwys bacteria sy'n gallu achosi gwenwyn bwyd. Er mwyn osgoi croeshalogi, dylech gadw cig amrwd ar wahân i gig wedi'i goginio a bwyd arall sy'n barod i'w fwyta, megis salad neu bwdinau. Peidiwch byth â defnyddio'r un offer neu fyrddau torri ar gyfer cig amrwd a bwyd sy'n barod i'w fwyta.
  • Cofiwch gadw bwyd oer yn oer a bwyd poeth yn boeth er mwyn atal bacteria rhag lluosi. Peidiwch â gadael bwyd a ddylai gael ei storio yn yr oergell yn sefyll yn y gwres.

Mae rhagor o gyngor ar gael drwy'r dolenni isod.