FSA in Wales
Last updated on 18 Hydref 2012
Nodyn atgoffa am hylendid yn dilyn achosion o E.coli yng Ngogledd Iwerddon
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn atgoffa pobl ledled y DU o ba mor bwysig yw hi i ddilyn arferion hylendid bwyd da a'r hyn y dylent ei wneud os ydynt yn cael gwenwyn bwyd.
Mae'r diweddariad wedi'i ysgogi gan yr achosion presennol o E.coli O157 yn Belfast. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gweithio'n agos gydag Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd ac awdurdodau eraill yng Ngogledd Iwerddon ar yr ymchwiliad parhaus i'r achosion.
Mae gwybodaeth am yr achosion presennol o E.coli ar gael drwy'r ddolen ar ochr dde'r dudalen.
Hylendid bwyd da
Mae arfer hylendid da yn bwysig, yn enwedig yn ystod achosion o wenwyn bwyd, gan fod bacteria yn gallu lledaenu'n gyflym iawn wrth i bobl gyffwrdd â phobl neu bethau eraill.
Mae hylendid dwylo a hylendid cyffredinol da yn bwysig iawn er mwyn helpu i atal heintiau rhag lledaenu. Cofiwch olchi eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth, yna eu sychu cyn ac ar ôl trin bwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio, ar ôl cyffwrdd â biniau, ar ôl mynd i'r toiled, ar ôl chwythu eich trwyn ac ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid (gan gynnwys anifeiliaid anwes).
Symptomau o wenwyn bwyd
Mae symptomau o wenwyn bwyd fel arfer yn dechrau rhwng un a thri diwrnod ar ôl bwyta bwyd wedi'i halogi, ond yn achos E.coli gall hyd at 14 o ddiwrnodau fynd heibio cyn i'r unigolyn fynd yn sâl. Mae symptomau o wenwyn bwyd yn cynnwys:
- teimlo'n sâl
- chwydu
- dolur rhydd
- crampiau stumog
Os oes gennych unrhyw un o'r symptomau hyn, dylech yfed digon o ddŵr. Bydd hyn yn eich helpu i wella. Os yw'r symptomau'n ddifrifol, fel dolur rhydd gwaedlyd neu boen yn yr abdomen, dylech ymgynghori â'ch meddyg teulu.
Mae hefyd yn bwysig i bobl sydd â gwenwyn bwyd fod yn ymwybodol o'r risg o halogi pobl eraill. Mae'n arbennig o bwysig bod unrhyw un sydd â swydd lle maent yn trin neu'n paratoi bwyd yn aros adref o'r gwaith tra bod eu symptomau'n parhau er mwyn osgoi heintio pobl eraill.
Dysgwch fwy am:
