Switch to English

Last updated on 26 Hydref 2012

Nodyn atgoffa i bobl sy'n trin bwyd

e.coli

Yn sgil yr achosion presennol o E.coli O157 yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn achub ar y cyfle i atgoffa pobl sy'n gweithio gyda bwyd i aros adref o'r gwaith ac ymweld â'u meddyg teulu os ydynt yn dioddef o wenwyn bwyd.

Mae'r un cyngor yn wir am bobl sy'n gweithio gyda bwyd sydd mewn cysylltiad agos â rhywun sy'n dioddef o symptomau gwenwyn bwyd.

Mae'n bwysig iawn i fabwysiadu arferion hylendid da. Mae'n bwysicach fyth yn ystod yr achosion o E.coli O157, lle mae haint yn y gymuned, gan y gall bacteria ledaenu'n gyflym iawn rhwng pobl. Gall y rheiny sy'n gweithio gyda bwyd tra eu bod yn dioddef o wenwyn bwyd halogi'r bwyd neu'r arwynebau y maent yn cyffwrdd â hwy.

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn parhau i weithio'n agos gydag Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd ac awdurdodau eraill yng Ngogledd Iwerddon ar yr ymchwiliad parhaus i'r achosion.

Symptomau o wenwyn bwyd

Mae symptomau o wenwyn bwyd fel arfer yn dechrau rhwng un a thri diwrnod ar ôl bwyta bwyd wedi'i halogi ond, yn achos E.coli, gall hyd at saith diwrnod fynd heibio cyn i'r unigolyn fynd yn sâl. Mae symptomau o wenwyn bwyd yn cynnwys:

  • teimlo'n sâl
  • chwydu
  • dolur rhydd
  • crampiau stumog

Os ydych chi, neu unrhyw aelod o'ch teulu agos, yn dioddef o unrhyw un o'r symptomau hyn, dylech roi gwybod i'ch rheolwr ar unwaith, aros adref o'r gwaith ac ymweld â'ch meddyg teulu. Mae'n rhaid i reolwyr atal pobl sy'n trin bwyd rhag gweithio gyda bwyd os ydynt yn dioddef o'r symptomau hyn. Ni ddylai'r rheiny sydd fel arfer yn gweithio gyda bwyd, sydd wedi cael cadarnhad bod ganddynt E.coli O157, ddychwelyd i'r gwaith tan iddynt gael caniatâd meddygol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i'r rheiny sydd mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael cadarnhad bod ganddynt E.coli O157.

Mae'r Asiantaeth wedi cyhoeddi'r canllawiau 'Pobl sy'n trin bwyd: Digon iach i weithio?' i geisio atal heintiau rhag lledaenu i bobl eraill drwy fwyd. Nod y canllawiau yw helpu rheolwyr a staff i atal heintiau rhag cael eu lledaenu drwy roi cyngor ar ba afiechydon a symptomau y dylai staff eu cofnodi a'r hyn y dylai rheolwyr ei wneud.

Hylendid bwyd da

Mae hylendid dwylo a hylendid cyffredinol da yn bwysig iawn er mwyn helpu i atal heintiau rhag lledaenu. Cofiwch olchi eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr poeth, yna eu sychu cyn trin bwyd amrwd a bwyd wedi'i goginio. Dylech hefyd olchi a sychu eich dwylo'n drylwyr ar ôl trin cig a dofednod amrwd, ar ôl cyffwrdd â biniau, ar ôl mynd i'r toiled, ar ôl chwythu eich trwyn ac ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid (gan gynnwys anifeiliaid anwes).

Mae canllawiau'r Asiantaeth Safonau Bwyd, 'Pobl sy'n trin bwyd: Digon iach i weithio?', yn cynnig canllawiau rheoliadol a chyngor ar arferion gorau i weithredwyr busnesau bwyd. Maent ar gael drwy'r ddolen isod.