FSA in Wales
Last updated on 1 Hydref 2012
Safonau hylendid bwyd yn gwella ledled Cymru
Ers cyflwyno'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) yng Nghymru ddwy flynedd yn ôl, mae safonau hylendid mewn busnesau bwyd yn gwella.
Mae data diweddar yn dangos bod gan ychydig dros 83% o fusnesau sgôr o 3, 4 neu 5, o gymharu ag ychydig dan 77% ar yr adeg hon y llynedd. Hefyd, mae gostyngiad wedi bod yn y busnesau sydd wedi cael sgôr isel o 0, 1 neu 2, o 23% ym mis Medi 2011 i ychydig dan 17% ar hyn o bryd.
Ers mis Hydref 2010, mae awdurdodau lleol wedi arolygu rhyw 20,000 o fusnesau bwyd ledled Cymru a rhoi sgôr iddynt, ac mae disgwyl y bydd gan dros 90% o fusnesau bwyd yng Nghymru sgôr erbyn diwedd eleni. Mae sgoriau ar gael ar-lein drwy: http://ratings.food.gov.uk/cy-GB ac yn rhad ac am ddim drwy gyfrwng yr app ar gyfer Android ac iPhone.
Meddai Steve Wearne, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: ‘Mae'r canfyddiadau hyn yn galonogol ac yn dangos bod y cynllun yn cyflawni'r nod o wella safonau hylendid bwyd mewn busnesau ledled Cymru, ond nid yw'r gwaith yn gorffen yma. Mae lle i wella o hyd, gan fod pob busnes yn gallu cyrraedd sgôr o 5, a bydd swyddogion diogelwch bwyd yn ymweld eto â busnesau a chanddynt sgôr o 0, 1 a 2 er mwyn eu helpu i wella'u sgôr. Mae'n bwysig hefyd fod gan ddefnyddwyr yn awr yr wybodaeth i'w helpu i wneud dewisiadau deallus am ble i fwyta neu brynu bwyd. Mae llawer o fusnesau yn arddangos eu sticeri. Os nad yw eich hoff fwyty neu siop tecawê yn gwneud hynny, dylech ofyn iddynt beth yw eu sgôr.'
Mae'r Asiantaeth yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y cynllun. Mae Bil Sgoriau Hylendid Bwyd (Cymru) Llywodraeth Cymru yn cynnig ei gwneud yn orfodol i weithredwyr busnesau bwyd arddangos eu sgôr, o ddiwedd 2013 ymlaen.
