FSA in Wales
Last updated on 13 Ionawr 2012
Gwaith ymchwil yn galw am adolygu rheolaethau swyddogol
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi gwahodd cyflenwyr i dendro am waith sy’n cynnwys casglu tystiolaeth ar y modd y caiff rheolaethau swyddogol eu rhoi ar waith yn bresennol. Gwahoddir ceisiadau gan gontractwyr cymwysedig sydd eisoes wedi’u cofrestru ar ddau fframwaith penodol.
Bydd y prosiect ymchwil yn cynnig trosolwg o’r strwythurau sydd ar waith mewn awdurdodau lleol ar hyn o bryd o ran gweithredu rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid. At hynny, bydd yn nodi sut mae’r broses hon yn newid a’r modd y mae hi’n rhyngweithio â meysydd gwaith eraill.
Bydd yr adolygiad o reolaethau swyddogol yn gwerthuso pa mor effeithiol yw’r model gweithredu presennol yn y DU, ac yn ystyried a oes lle i wella.
Mae copi o fanyleb y gwaith ymchwil a gwybodaeth am y fframweithiau ar gael drwy’r dolenni isod (Saesneg yn unig).
