FSA in Wales
Last updated on 4 Mai 2012
Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori Ar Fwyd Cymru: 17 Mai 2012
Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal cyfarfod agored yng Nghaerdydd ddydd Iau, 17 Mai 2012.
Dyma sydd ar yr agenda:
- Arddangos sgoriau CSHB/FHIS
- Canlyniadau’r arolwg lles anifeiliaid
- Yr ASB fel adran y DU yn gweithio mewn maes o gymhwysedd datganoledig
Bydd agenda i’w gweld ar wefan yr Asiantaeth: www.food.gov.uk/wales – cliciwch ar ‘Cymraeg’.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn swyddfa’r Asiantaeth, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Bydd modd cofrestru a chael paned am 09:15, a bydd y cyfarfod yn dechrau’n brydlon am 09:30.
Estynnir croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y meysydd hyn, neu yng ngwaith yr Asiantaeth yn gyffredinol. Bydd cyfle i gyflwyno sylwadau a chymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 029 2067 8999 neu anfonwch e-bost at: WalesAdminTeam@foodstandards.gsi.gov.uk
