Switch to English

Last updated on 31 Mai 2012

Adroddiad yn dangos bod digwyddiadau bwyd yn cynyddu

spiral bound report

Roedd cynnydd yn nifer y digwyddiadau bwyd y bu’n rhaid i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ymchwilio iddynt y llynedd.

Roedd y rhain yn cynnwys adroddiadau am fwyd wedi’i halogi neu fwyd anghyfreithlon yn cyrraedd y gadwyn fwyd, â rhai ohonynt yn peri risg posibl i’r cyhoedd.

Yn ôl Adroddiad Blynyddol Digwyddiadau 2011 a gyhoeddwyd yr wythnos hon, roedd yr ASB wedi ymchwilio i 1,714 o ddigwyddiadau bwyd y llynedd, o gymharu â 1,505 yn 2010. Dyma gynnydd pellach ar y 1,208 o ddigwyddiadau a gofnodwyd yn 2009.

Nid oes un rheswm penodol wedi’i nodi am y cynnydd. Mae’r ASB yn credu bod cyfuniad o ffactorau y tu ôl i’r cynnydd, ond y mwyaf tebygol yw’r gwelliannau sydd wedi digwydd o ran monitro a chofnodi.

Mae Adroddiad Blynyddol Digwyddiadau 2011 yn dangos cynnydd ar draws nifer o gategorïau o ddigwyddiadau bwyd. Er enghraifft, mae’r cynnydd a welwyd ers 2006 o ran cofnodi digwyddiadau o halogi microbiolegol wedi parhau. Roedd 281 o’r fath ddigwyddiadau yn 2011, o gymharu â 271 yn 2010, a 147 yn ôl yn 2006.

Cynhaliwyd rhagor o brofion ar ddail paan y llynedd yn dilyn pryderon am halogi salmonela, ac mae hynny wedi cyfrannu’n ddiamheuol at y cynnydd eleni. Rhoddwyd gwybod i’r ASB am 79 o ddigwyddiadau o halogi dail paan yn 2011.

Mae digwyddiadau yn gysylltiedig â phlaladdwyr wedi cynyddu hefyd. Cynhaliwyd rhagor o brofion ar ocra mewn arolygfeydd ffin, yn dilyn nifer o rybuddion, ac roedd hyn yn gyfrifol am y cynnydd o ran digwyddiadau yn ymwneud â phlaladdwyr sy’n anghyfreithlon yn y DU a’r Undeb Ewropeaidd, gyda 102 yn 2011 o gymharu â 55 yn 2010.

Mae Adroddiad Blynyddol Digwyddiadau 2011 yn cynnwys gwybodaeth gefndirol ar sut y mae digwyddiadau yn cael eu dosbarthu a’u hymchwilio. Hefyd, mae yna astudiaethau achos o rai o’r digwyddiadau proffil uchel yr ymchwiliodd yr ASB iddynt y llynedd, gan gynnwys manylion am ba gamau a gymerwyd a rhai o’r gwersi a ddysgwyd.

Meddai Tim Smith, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd: “Cadw bwyd yn ddiogel yw blaenoriaeth yr ASB ac mae ymchwilio i ddigwyddiadau bwyd yn rhan allweddol o hynny. Mae ein hadroddiad blynyddol yn rhoi cipolwg gwirioneddol ar y rôl yr ydym yn ei chyflawni wrth ddiogelu’r gadwyn fwyd rhag ystod eang o risgiau.

“Mae gan y DU rai o’r amddiffyniadau diogelwch bwyd cryfaf yn y byd. Pan fo digwyddiadau o’r fath yn taro’r diwydiant bwyd, mae’r ASB, asiantaethau llywodraethol eraill, a swyddogion gorfodi lleol, yn gweithio’n gyflym i nodi unrhyw risgiau a thynnu’r cynhyrchion sydd wedi’u heffeithio oddi ar ein silffoedd. Rwy’n gobeithio bod yr adroddiad hwn yn rhoi hyder i’r cyhoedd bod ein systemau ni’n gweithio ac yn gweithio’n dda.