Switch to English

Last updated on 27 Mehefin 2012

Datganiad ar gyhoeddiad Llywodraeth yr Alban am yr ASB

About us forks fsa logo

Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn creu corff newydd yn yr Alban ar gyfer diogelwch bwyd, safonau bwyd, maeth, labelu bwyd ac arolygiadau cig.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad Scudamore o swyddogaethau’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn yr Alban. Mae copi o gyhoeddiad Llywodraeth yr Alban ar gael drwy’r ddolen isod.

Ar ran y Bwrdd, dywedodd Jeff Rooker, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: “Mae Bwrdd yr ASB yn parchu penderfyniad Llywodraeth yr Alban i gynnig ASB rydd ac annibynnol ar gyfer yr Alban.
Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i fodloni eu hamcanion, ynghyd â sicrhau bod buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yn dal i gael eu diogelu.

‘Mae Bwrdd yr ASB yn arbennig o ymwybodol y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio’n uniongyrchol ar bron i 200 o’n staff sydd wedi’u lleoli yn yr Alban, o’r rheiny sy’n gweithio mewn ffatrïoedd cig i’r rheiny sy’n gweithio yn swyddfa'r ASB yn Aberdeen. Bydd y penderfyniad yn cael effaith ar y modd y bydd gweddill y sefydliad yn gweithio hefyd. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i sicrhau bod pryderon ein staff yn cael eu hystyried yn briodol.

Hyd nes i unrhyw ddiwygiadau deddfwriaethol newydd ddod i rym, bydd yr ASB yn parhau i gynnal ei dyletswyddau yn yr un modd ag o’r blaen. Erys diogelwch bwyd ledled y DU yn flaenoriaeth i’r ASB.