FSA in Wales
Last updated on 13 Mehefin 2012
Hufen iâ Chokablok wedi’i alw yn ôl
Mae R&R Ice Cream Ltd yn galw amlbecynnau (multipacks) hufen iâ Chokablok o dri math yn ôl oddi wrth gwsmeriaid sydd wedi’u prynu o Tesco ac One Stop.
Caiff hyn ei wneud fel cam rhagofalus. O ganlyniad i nam yn y broses gynhyrchu, mae’n bosibl bod y cynhyrchion yn cynnwys darnau o ffon loli sydd wedi torri.
Manylion y cynnyrch
Dyma’r cynhyrchion sy’n cael eu galw yn ôl:
• Chokablok The Chocolate Extremist, 240ml (3 x 80ml)
• Chokablok Peanut Butter Nutter, 240ml (3 x 80ml)
• Chokablok Billionaires Dynamite, 240ml (3 x 80ml)
Mae’r cynhyrchion sy’n cael eu galw yn ôl yn dwyn dyddiadau ‘ar ei orau cyn’ hyd at, ac yn cynnwys, fis Hydref 2012.
Mae’r cynhyrchion sydd wedi’u heffeithio wedi’u galw yn ôl oddi wrth gwsmeriaid. Dywedwyd wrth bob siop a dderbyniodd y cynhyrchion hyn am y broses o’u galw yn ôl. Bydd hysbysiadau man gwerthu yn cael eu harddangos yn y siopau sy’n esbonio pam y cafodd y cynhyrchion eu galw yn ôl. Os ydych wedi prynu unrhyw un o’r cynhyrchion uchod, peidiwch â’u bwyta. I gael ad-daliad llawn, dylech ddychwelyd y cynnyrch sydd wedi’i effeithio i’r siop. Nid oes angen derbynneb.
I gael rhagor o wybodaeth am ad-daliadau, neu sut i gael cynnyrch newydd yn lle’r un gwreiddiol, a fyddech cystal â ffonio gwasanaethau cwsmeriaid y cwmni ar 0800 50 55 55 (yn rhad ac am ddim o linell dir yn y DU).
Nid yw Hufen Iâ eraill R&R na chynhyrchion Chokablok eraill wedi’u heffeithio, hyd eithaf ein gwybodaeth.
Tynnu a galw cynhyrchion yn ôl
Os oes problem gyda chynnyrch bwyd sy’n golygu na ddylid ei werthu, yna mae’n bosibl y bydd yn cael ei ‘dynnu yn ôl’ (ei dynnu oddi ar y silffoedd) neu’i ‘alw yn ôl’ (pan ofynnir i gwsmeriaid ddychwelyd y cynnyrch). Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi Hysbysiadau Tynnu Cynnyrch yn Ôl a Hysbysiadau Galw Cynnyrch yn Ôl i roi gwybod i ddefnyddwyr ac awdurdodau lleol am broblemau sy’n gysylltiedig â bwyd. Mewn rhai achosion, cyhoeddir ‘Rhybudd Bwyd – Angen Gweithredu’. Mae hyn yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am gamau penodol sydd i’w cymryd ar ran defnyddwyr.
Gallwch gael rhybuddion ASB am alw a thynnu cynhyrchion yn ôl naill ai drwy e-bost neu decst SMS. Ewch i’r dudalen ‘Get Alerts’ ar y ddolen ar waelod y dudalen hon i gael gwybod sut i wneud hynny.
Gallwch hefyd danysgrifio i’n cyflenwad newyddion RSS ar gyfer rhybuddion bwyd ac alergedd. Mae RSS yn fformat ar gyfer dosbarthu cynnwys newyddion ac yn ffordd syml o gael y newyddion diweddaraf ar wefan.
Pan fyddwn yn cyhoeddi drwy RSS, gallwch gael y cynnwys diweddaraf yn awtomatig drwy gyfrwng ‘darllenydd newyddion’. Bydd ein cyflenwad newyddion RSS yn cynnwys crynodeb byr a dolen yn ôl i’r cynnwys ar ein gwefan. Gallwch gael rhagor o fanylion drwy glicio ar ‘What is RSS’ ar ochr chwith y dudalen hon.
