Switch to English

Last updated on 15 Mehefin 2012

Penodiadau newydd i Fwrdd yr ASB

About us forks fsa logo

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi pedwar penodiad newydd i Fwrdd yr ASB.

Bydd Sharmila Nebhrajani, Jeff Halliwell, Paul Wiles a Liz Breckenridge yn gwasanaethu am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, gan orffen ym mis Mai 2015.

Cafodd Sharmila Nebhrajani, Jeff Halliwell a Paul Wiles eu penodi gan Anne Milton, y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a’r Adran Iechyd.

Cafodd Liz Breckenridge, ail aelod y Bwrdd dros yr Alban, ei phenodi gan Michael Matheson MSP, Gweinidog yr Alban dros Iechyd y Cyhoedd.

Meddai Jeff Rooker, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ‘Bydd pedwar aelod newydd ein Bwrdd yn dod â thoreth ac ystod eang o brofiad gyda hwy ac yn atgyfnerthu Bwrdd yr ASB ymhellach. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hwy er mwyn parhau i ddiogelu buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a sicrhau bod gan bobl hyder yn ein cyngor ni.”

Sharmila Nebhrajani yw Prif Weithredwr y Gymdeithas Elusennau Ymchwil Meddygol (AMRC) ac roedd hi’n arfer bod yn Gyfarwyddwr Cyllid a Chontractio yn NHS Sussex. Hi oedd Prif Swyddog Gweithredu Cyfryngau Newydd a Thechnoleg y BBC am dros 10 mlynedd ac mae hi’n gyfrifydd siartredig. Ar hyn o bryd, mae hi’n Gomisiynydd Elusennau a bu’n gwasanaethu am 10 mlynedd ar fwrdd yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg.

Bu Jeff Halliwell gynt yn rheolwr-gyfarwyddwr ar Bernard Matthews Ltd. Mae hefyd wedi dal swyddi uwch yn First Milk ac yn Northern Foods plc. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol o NHS Norfolk ac Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Waveney ac yn derbyn tâl o £7,882 y flwyddyn. Ef yw Is-gadeirydd Llywodraethwyr Prifysgol Swydd Bedford, ac Ymddiriedolwr/Cyfarwyddwr Shaw Trust. Jeff Halliwell yw Cadeirydd Etholedig Cafédirect plc, ac mae’n ymgynghorydd i Scratch Meals Ltd.

Mae Paul Wiles yn Wyddonydd Cymdeithasol. Roedd yn arfer bod yn Brif Ymgynghorydd Gwyddonol i’r Swyddfa Gartref ac yn Brif Wyddonydd Cymdeithasol y Llywodraeth. Mae hefyd yn Athro gwadd ym maes Troseddeg ym mhrifysgolion Rhydychen a Sheffield. Mae’n gyfarwyddwr anweithredol profiadol ac yn Gyfarwyddwr ac Ymddiriedolwr y Ganolfan Genedlaethol dros Ymchwil Cymdeithasol. Mae hefyd yn Gomisiynydd yn y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Loegr, gyda thâl o £316 y diwrnod, ac yn ymgynghorydd i’r Cyngor Dedfrydu, gyda thâl o £300 y diwrnod.

Arferai Liz Breckenridge weithio ym maes marchnata cynnyrch bwyd. Hi oedd y Cyfarwyddwr Marchnata yn Highland Spring a bu’n gweithio hefyd yn General Foods ac yn Booker PLC. Mae’n Aelod o Fwrdd Llais Defnyddwyr yr Alban ac yn derbyn tâl o £5,280. Hi oedd Cadeirydd Pwyllgor Cynghori’r ASB ar Gysylltu â Defnyddwyr ac roedd hi’n aelod o’r Grŵp Cynghori Allanol i Adolygiad yr ASB o Reolaethau Swyddogol. Ymddiswyddodd o’r ddwy rôl honno er mwyn derbyn y cynnig i ddod yn aelod o Fwrdd yr ASB.

Mae aelodau o’r Bwrdd yn derbyn tâl blynyddol o £10,454, a hynny am ryw 36 o ddiwrnodau y flwyddyn.

Mae’r holl benodiadau’n cael eu gwneud yn ôl teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae yna ofyniad i gyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol yr unigolion sy’n cael eu penodi (os oes unrhyw weithgarwch wedi’i ddatgan). Nid yw unrhyw un o’r ymgeiswyr wedi datgan gweithgarwch gwleidyddol. Mae’r penodiadau hyn wedi’u gwneud yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Mae rhagor o wybodaeth fywgraffyddol ar aelodau newydd y Bwrdd ar gael drwy’r ddolen isod.