FSA in Wales
Last updated on 11 Mehefin 2012
Risgiau diogelwch bwyd wrth geisio arbed arian
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos bod rhai pobl yn cymryd risgiau gyda diogelwch bwyd wrth iddynt geisio arbed arian a gwneud y mwyaf o’u bwyd.
“Mae defnyddio bwyd sydd dros ben yn ffordd dda o wneud y mwyaf o’n prydau bwyd. Fodd bynnag, os nad ydym yn ofalus, gallem fod mewn perygl o gael gwenwyn bwyd drwy beidio â storio neu drin bwyd dros ben yn gywir." Rob Wilkins
Dangosodd yr ymchwil fod y rhan fwyaf o’r bobl a holwyd (97%) yn credu bod cost eu basged siopa arferol wedi cynyddu’n sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf ac roedd y farn hon yn gyffredin ledled y DU. Mae hanner y rhain yn ceisio gwneud defnydd gwell o fwyd sydd dros ben. Mae rhai pobl yn anwybyddu dyddiadau Defnyddio Erbyn yn fwy nag yr oeddent yn arfer ei wneud. Mae eraill yn cadw bwyd dros ben yn hirach yn yr oergell na’r ddau ddiwrnod a argymhellir.
Mae’r Wythnos Diogelwch Bwyd yn dechrau heddiw ac mae’r ASB yn atgoffa pobl i beidio â chymryd risgiau gyda diogelwch bwyd, hyd yn oed pan fo cyllidebau’n cael eu gwasgu.
Meddai Rob Wilkins, arbenigwr diogelwch bwyd yn yr ASB yng Nghaerdydd:
“Mae costau siopa wythnosol y rhan fwyaf ohonom wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, felly rydym ni i gyd yn chwilio am ffyrdd o wneud i’n ceiniogau fynd ymhellach.
“Mae defnyddio bwyd sydd dros ben yn ffordd dda o wneud y mwyaf o’n prydau bwyd. Fodd bynnag, os nad ydym yn ofalus, gallem fod mewn perygl o gael gwenwyn bwyd drwy beidio â storio neu drin bwyd dros ben yn gywir. Yn ystod yr Wythnos Diogelwch Bwyd, rydym yn annog pobl i ystyried eu hoergell yn ffrind, ac i gadw yn ddiogel wrth wneud y mwyaf o’u bwyd dros ben.”
Mae tua miliwn o achosion o wenwyn bwyd yn y DU bob blwyddyn. Mae’r lefelau yn cynyddu yn ystod yr haf, gyda thua 120,000 o achosion ychwanegol o salwch rhwng mis Mehefin a mis Awst. Un o’r rhesymau am y cynnydd hwn yw bod tymereddau uwch yn achosi germau i dyfu’n gyflymach. Mae hyn yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw hi i roi bwyd sydd dros ben yn yr oergell, a hynny cyn gynted ag sy’n bosibl.
Cyngor yr ASB
Dyma gyngor yr ASB ar fwyd sydd dros ben:
- Os ydych am storio bwyd dros ben yn yr oergell, dylech ei oeri cyn gynted ag sy’n bosibl – o fewn 90 munud yn ddelfrydol. Dylech ei orchuddio, ei rhoi yn yr oergell a’i fwyta o fewn deuddydd.
- Gwnewch yn siŵr fod tymheredd eich oergell yn gywir. Dylai fod yn is na 5oC.
- Gallwch rewi bwyd sydd dros ben hefyd, ond dylech ei oeri’n gyntaf er mwyn sicrhau nad yw’n amharu ar dymheredd eich rhewgell. Gellir ei storio’n ddiogel yn y rhewgell, ond bydd yr ansawdd yn dal i ddirywio’n raddol dros amser, felly mae’n well ei fwyta o fewn tri mis.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn dadmer bwyd dros ben sydd wedi’i rhewi cyn ei ddefnyddio. Dylech ddefnyddio micro-don os ydych am ei goginio’n syth. Os nad oes gennych ficro-don, ewch ati i’w ddadmer yn yr oergell dros nos.
- Dylech fwyta bwyd sydd dros ben o fewn 24 awr o’i ddadmer a pheidiwch â’i ail-rewi eto. Yr unig eithriad yw bwyd amrwd, fel cig neu ddofednod. Gellir ail-rewi’r bwydydd hyn ar ôl iddynt gael eu coginio.
- Dylech goginio bwyd sydd dros ben tan ei fod yn stemio’n boeth drwyddo.
Meddai Georgina Taubman, Swyddog Lleihau Gwastraff ymgyrch Caru Bwyd, Casáu Gwastraff Cymru:
“Mae gwneud y mwyaf o’r bwyd a brynwn yn gynyddol bwysig i ni i gyd, yn enwedig â chyllidebau teuluol yn gwasgu, ond rydym yn dal i wastraffu 20% o’r bwyd a brynwn yn ddiangen. Mae bwyd yno i’w fwyta, felly gadewch i ni fwynhau ein bwyd dros ben yn ystod yr Wythnos Diogelwch Bwyd hon, a hynny’n ddiogel. Ewch i LoveFoodHateWaste.com i gael digonedd o gynghorion, syniadau am ryseitiau ac ysbrydoliaeth i’n helpu ni i gyd i wastraffu llai ac arbed mwy.”
Dyddiadau 'Defnyddio erbyn'
Yn ôl ymchwil yr ASB, mae pobl hefyd mewn perygl o gael gwenwyn bwyd drwy anwybyddu dyddiadau Defnyddio Erbyn yn fwy nag yr oeddent yn arfer ei wneud. Dyddiadau Defnyddio Erbyn yw’r dyddiadau pwysicaf ar labeli bwyd. Maent yn cael eu defnyddio ar fwydydd a all fynd yn anniogel yn gyflym fel bwydydd oer neu fwydydd sy’n barod i’w bwyta.
Gwelodd yr ymchwilwyr fod un o bob tri pherson yn fwy tebygol o benderfynu a yw bwyd yn ddiogel i’w fwyta yn ôl ei arogl, y golwg sydd arno a pha mor hir y mae wedi’i storio, yn hytrach na’r dyddiad Defnyddio Erbyn.
Meddai Rob Wilkins:
“Er bod pobl yng Nghymru yn cytuno’n gryf bod defnyddio bwyd sydd dros ben yn ffordd dda o arbed arian, maent hefyd yn dueddol o ddibynnu ar eu greddf bersonol yn hytrach na dyddiadau Defnyddio Erbyn.
Mae yna demtasiwn i arogli eich bwyd i ddyfalu a yw ef wedi mynd yn ‘ddrwg’, ond nid yw heintiau bwyd fel E.coli a Salmonela yn achosi bwyd i arogli’n ddrwg. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan allent fod wedi tyfu i lefelau peryglus. Gall bwyd fod yn niweidiol hyd yn oed os yw’n edrych ac yn arogli’n iawn.
“Mae’r dyddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am ba mor hir y bydd bwyd yn ddiogel, felly mae’n bwysig iawn i chi lynu at y dyddiad Defnyddio Erbyn. Mae dyddiadau eraill sy’n cael eu nodi ar fwydydd yn canolbwyntio llai ar ddiogelwch bwyd. Mae’r dyddiad Ar ei Orau Cyn yn sôn am ansawdd bwyd ac felly nid oes yn rhaid i ni gadw ato’n union. Mae dyddiadau Arddangos Tan yno i helpu staff mewn siopau i reoli stoc.”
