Switch to English

Last updated on 6 Mehefin 2012

Ymateb i safbwynt EFSA ar olewau mwynol

spiral bound report

Mae Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) wedi cyhoeddi safbwynt ar olewau mwynol mewn bwyd heddiw.

Gall olewau mwynol mewn bwyd ddeillio o halogi neu rai prosesau wrth gynhyrchu bwyd.

Er bod EFSA wedi nodi pryder posibl o ran olewau mwyn mewn bwyd, mae’n cydnabod cryn ansicrwydd wrth asesu unrhyw risgiau posibl. Yn yr un modd ag arolwg diweddar yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), nid yw safbwynt heddiw yn nodi unrhyw bryderon penodol o ran diogelwch bwyd.

Nid yw’r ASB yn cynghori defnyddwyr i newid eu harferion bwyta yn seiliedig ar safbwynt EFSA. Mae hyn yn unol รข chyngor blaenorol yn sgil arolwg yr ASB ym mis Rhagfyr 2011, a aeth i’r afael ag olewau mwynol mewn pecynnau bwyd bwrdd carton.

Mae’r ASB wedi parhau i weithio gyda’r diwydiant bwyd a phecynnu ar olewau mwynol mewn bwyd ers cyhoeddi’r arolwg hwn. Mae’r ASB yn ymwybodol eu bod wedi gweithio i leihau presenoldeb olewau mwynol mewn bwyd a phecynnau.

Bydd yr ASB yn adolygu safbwynt EFSA yn fanwl ac yn ystyried a oes angen gwaith pellach er mwyn diogelu defnyddwyr.