FSA in Wales
Last updated on 12 Chwefror 2013
Tesco yn dod o hyd i gig ceffyl mewn Everyday Value Spaghetti Bolognese
Mae Tesco wedi cyhoeddi ei fod wedi dod o hyd i gig ceffyl yn ei Everyday Value Spaghetti Bolognese.
Daeth y cyhoeddiad ar ôl cynnal nifer o brofion ar y cynnyrch, a gafodd ei dynnu oddi ar y silffoedd ar sail ragofalus.
Yn ôl Tesco, mae'r rhan fwyaf o'r canlyniadau positif yn dangos lefelau o lai nag 1% ond roedd tri o'r cynhyrchion yn cynnwys lefelau sylweddol o DNA ceffyl, sef mwy na 60%. Cynhaliodd y cwmni hefyd brofion i weld a oedd y cig ceffyl yn cynnwys 'bute' a chanfuwyd nad oedd y cyffur hwn yn bresennol yn y cig.
Datganiad Tesco gan Tim Smith, Cyfarwyddwr Grŵp Technegol Tesco
