FSA in Wales
Last updated on 5 Mawrth 2013
Cyfarfod Bwrdd yr ASB yn cael ei ddarlledu’n fyw ar y we
Bydd cyfarfod agored Bwrdd yr ASB, sy’n cael ei gynnal heddiw, yn cael ei ddarlledu’n fyw ar y we o 1pm ymlaen. Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yn Aviation House yn Llundain ac yn cael ei arwain gan, Gadeirydd Bwrdd yr ASB, Jeff Rooker. Os nad ydych chi’n bresennol, gallwch wylio’r cyfan ar-lein.
| Cyfarfod Bwrdd 5 Mawrth 2013 | |
|---|---|
![]() |
Cliciwch yma i weld y Cyfarfod Bwrdd yn fyw |
![]() |
Cliciwch yma i lawrlwytho Adobe Flash Player |
Ymhlith yr eitemau ar yr agenda mae’r digwyddiad cig ceffyl a’r Adolygiad o Reolaethau Swyddogol.
Podledu
Mae pob un o gyfarfodydd agored yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd ar gael fel podlediadau. Mae hyn yn golygu bod modd lawrlwytho cynnwys sain pob cyfarfod ar eich cyfrifiadur neu ddyfais MP3.
Bydd podlediad y cyfarfod hwn, yn ogystal â fideo y gellir ei wylio ar gais, ar gael o ddydd Iau 7 Mawrth (Saesneg yn unig).
Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod nesaf y Bwrdd
Gallwch gofrestru i fynychu’r cyfarfod sy’n cael ei gynnal ar 17 Ebrill 2013 yng Nghaerdydd drwy’r ddolen ar ochr dde'r dudalen.
Gan fod nifer y lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig, cofiwch ddisgwyl am gadarnhad swyddogol o’ch cofrestriad cyn gwneud unrhyw gynlluniau teithio.
Os hoffech unrhyw gymorth i gofrestru neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni:
Ffôn: 020 8481 3302
E-bost: fsaboardmeetings@livegroup.co.uk


