FSA in Wales
Last updated on 5 Mawrth 2013
Cyfraith sgoriau hylendid bwyd yn cael Cydsyniad Brenhinol
Mae cyfraith Gymreig newydd i wella safonau hylendid busnesau bwyd yng Nghymru wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi y Frenhines.
Fel rhan o Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 Cynulliad Cymru, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun gorfodol a fydd yn gorfodi busnesau bwyd i arddangos eu sgoriau hylendid yn agored. Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar gynllun sgorio hylendid bwyd gwirfoddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos eu sgoriau hylendid bwyd, sy’n amrywio o 0 (angen gwella ar frys) i 5 (da iawn), yn seiliedig ar gydymffurfiaeth รข gofynion cyfraith bwyd. Bydd y ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol orfodi’r cynllun gorfodol yn eu hardal er mwyn sicrhau bod sgoriau’n cael eu harddangos yn gywir. Mae disgwyl i’r cynllun gorfodol ddod i rym ddiwedd y flwyddyn er mwyn rhoi amser i fusnesau baratoi.
