Switch to English

Last updated on 1 Mawrth 2013

Y diweddaraf ar raglen samplu yr UE

meat burgers raw frozen

Heddiw, mae’r ASB yn cyhoeddi rhagor o fanylion am raglen samplu yr Undeb Ewropeaidd a gytunwyd gan Aelod-wladwriaethau ac a gyhoeddwyd gan yr ASB yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi gofyn i Aelod-wladwriaethau roi Cynlluniau Rheoli Swyddogol ar waith sy’n caniatáu ar gyfer samplu a phrofi presenoldeb DNA ceffylau mewn bwyd sy’n cael ei farchnata neu ei labelu fel bwyd sy’n cynnwys cig eidion. Yn y DU, mae 150 o samplau o gynhyrchion eidion yn cael eu dadansoddi ar gyfer yr arolwg, a bydd yr UE yn cael ei hysbysu am y canlyniadau, law yn llaw â manylion unrhyw gamau gweithredu a gymerir o ganlyniad.

Yn y DU, aeth 24 o awdurdodau lleol ledled y DU ati’r wythnos hon i ddechrau casglu samplau. Mae’r mathau o gynhyrchion sy’n cael eu profi yn cynnwys briwgig eidion, byrgyrs eidion, selsig eidion, peli cig a phrydau parod a bydd yn cynnwys cynhyrchion sydd wedi’u rhewi, eu hoeri, eu coginio a rhai mewn tuniau. Bydd samplau yn cael eu casglu gan gyflenwyr manwerthu, cyfanwerthu ac arlwyo (gan gynnwys y rheiny sy’n cyflenwi bwyd i ysgolion, carchardai ac ysbytai) a storfeydd oer. Bydd bwydydd sydd wedi’u pecynnu a rhai sydd heb eu pecynnu yn cael eu profi. Bydd yr ASB yn cyflwyno adroddiad i’r Comisiwn erbyn 9 Ebrill.

Mae’r Comisiwn wedi nodi bod gelatin y tu allan i gwmpas y cynllun rheoli. Ni fydd cynhyrchion megis ciwbiau stoc ac ati yn cael eu cynnwys ar y cam hwn chwaith. Mae profi am rywogaethau anifeiliaid yn y cynhyrchion hyn yn anodd gan eu bod wedi’u prosesu’n helaeth, nid yw’r prawf ar gael yn eang ac mae’r cynnwys cig ynddynt yn isel iawn. Y brif flaenoriaeth yw cynhyrchion lle mae cig yn gynhwysyn sylweddol.

Y gwaith samplu a phrofi ar gyfer rhaglen yr UE yw trydydd cam arolwg yr ASB o’r DU gyfan o ddilysrwydd bwyd mewn cynhyrchion cig. Mae camau 1 a 2 yn cynnwys casglu 364 o samplau o gynhyrchion eidion gan awdurdodau lleol. Bydd y canlyniadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi gan yr ASB yr wythnos nesaf.

Mae’r drefn brofi hon gan awdurdodau lleol yn broses ar wahân i drefn brofi’r diwydiant. Mae’r ASB wedi cyhoeddi canlyniadau’r rhaglen hon dros y pythefnos diwethaf, a bydd trydedd set o ganlyniadau yn cael ei chyhoeddi heddiw (1 Mawrth).