Switch to English

Last updated on 6 Mawrth 2013

Busnesu cyn bwyta ar Sul y Mamau

Welsh (Cymraeg) Food Hygiene Rating Scheme logo

Os ydych chi’n bwriadu mynd â mam am bryd o fwyd blasus i ddathlu Sul y Mamau eleni (10 Mawrth), mae busnesu ar y sgôr hylendid bwyd ymlaen llaw yr un mor bwysig â busnesu ar y fwydlen.

Efallai bod ei hoff fwyty yn edrych yn anhygoel a bod pawb yn ei ganmol i’r cymylau, ond pa mor hylan yw’r bwyty hwnnw mewn gwirionedd? Does dim modd barnu safonau hylendid busnes yn ôl ei ymddangosiad, dyna pam fod yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, wedi cyflwyno’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd. Mae’r cynllun hwn yn rhoi cipolwg i gwsmeriaid o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig y gegin, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus wrth ddewis ble i fwyta.

Pan ydych chi’n bwyta allan, yn enwedig ar achlysur arbennig, rydych chi’n dewis rhywle sy’n gweini bwyd blasus lle byddwch chi’n siŵr o gael amser da. Mae hefyd yn gwneud synnwyr i gymryd cip ar y sgôr hylendid bwyd hefyd.

Bydd rhai o’r canlyniadau yn eich synnu! Mae'n bosibl bod eich siop tecawê rad, leol wedi cael sgôr uwch na bwyty drutaf y dref!

Sgoriau Hylendid Bwyd

Mae bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê a mannau eraill sy’n gweini bwyd yn cael sgôr rhwng 0 a 5 ar ôl cael eu harolygu gan swyddog diogelwch bwyd. Mae’r sgôr uchaf o 5 yn golygu bod gan fusnes safonau hylendid ‘da iawn’ ac mae’r sgôr hon o fewn cyrraedd pob busnes bwyd.

Sut i chwilio am sgoriau

Mae’n hawdd busnesu ar y sgoriau ar-lein drwy: food.gov.uk/ratings – cliciwch ar ‘Cymraeg’ neu drwy lawrlwytho ein app ‘hylendid bwyd’ am ddim. Gallwch hefyd gadw llygad am sticeri gwyrdd a du unigryw'r cynllun yn ffenestri’r busnesau bwyd.

Rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf

Meddai Rob Wilkins, arbenigwr ar ddiogelwch bwyd yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd: ‘Mae’r cynllun hwn yn rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf, ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol iawn i bobl wrth ddewis ble i fwyta allan. Mae’r ASB yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Cymru ar y cynllun. Rydym yn eich argymell i ddewis mannau bwyta gyda sgoriau uwch wrth fwyta allan.’

Amcangyfrifir bod oddeutu miliwn o achosion o wenwyn bwyd bob blwyddyn yn y DU, gydag oddeutu 20,000 o bobl yn cael eu trin yn yr ysbyty. Mae pawb am i mam gael diwrnod wrth ei bodd ar Sul y Mamau, dyna pam ei bod yn syniad da busnesu cyn bwyta!

Ar-lein ac ar grwydr

Sgôr Hylendid Bwyd – Bwyta allan? Bwyta i mewn? Ewch i www.food.gov.uk/ratings

App logo Gallwch lawrlwytho’r app sgoriau hylendid bwyd yn rhad ac am ddim o Google Play (Android), iTunes a’r Windows Store

Twitter logo Ymunwch â’ sgwrs ar Twitter drwy ddefnyddio #FHRS – mae’n syniad da defnyddio @foodgov wrth drydar.

src="/images/navimages/f_logo.jpg" alt="Facebook logo" title="Food Hygiene Rating Scheme Facebook page" /> Ewch i dudalen y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar facebook:
www.facebook.com/FoodHygieneRatingScheme neu beth am ymweld â thudalen Gymraeg yr Asiantaeth drwy
www.facebook.com/AsiantaethSafonauBwyd?

Related Items