Switch to English

Last updated on 1 Mawrth 2013

Trydydd ddiweddariad ar brofi cynhyrchion eidion ar gyfer DNA ceffylau

meat packed in trays

Mae'r ASB wedi derbyn trydedd set o ganlyniadau gan y diwydiant bwyd, sydd wedi bod yn cynnal profion am DNA ceffylau mewn cynhyrchion sydd wedi'u labelu fel cig eidion.

Profion y diwydiant bwyd

Gan gynnwys profion yr wythnos ddiwethaf, mae 5430 o ganlyniadau wedi dod i law erbyn hyn. Mae'r ffigur hwn yn cynnwys y 1797 o ganlyniadau yr ydym yn eu cyhoeddi heddiw. Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym yn sgil profion y diwydiant bwyd:

  • Yn yr un modd â'r wythnosau blaenorol, mae mwyafrif helaeth y profion (dros 99%) yn parhau i ddangos dim DNA ceffylau ar lefel o 1% neu uwch.
  • Mae canlyniadau heddiw yn cadarnhau bod pedwar cynnyrch pellach yn cynnwys DNA ceffylau ers cyhoeddi'r set ddiwethaf o brofion yr wythnos ddiwethaf. Mae'r pedwar cynnyrch wedi'u cynnwys mewn 10 prawf sy'n dangos DNA ceffylau yn uwch na'r trothwy o 1%. Mae'r cynhyrchion wedi'u henwi yn yr adroddiad amgaeedig (gweler Tabl 2) ac wedi eu tynnu oddi ar y farchnad.
  • Bellach mae profion y diwydiant wedi dangos bod 17 o gynhyrchion yn cynnwys mwy nag 1% o DNA ceffylau (Tabl 2). Mae dau gynnyrch pellach wedi'u nodi drwy brofion ar wahân (Tabl 3).
  • Hyd yma, nid yw unrhyw brofion ar gynhyrchion sy'n cynnwys DNA ceffylau wedi dangos y feddyginiaeth filfeddygol phenylbutazone (bute). Mae gwybodaeth fanwl, ynghyd â chyngor i ddefnyddwyr, ar gael yma: consumer advice.
  • Mae'r ASB yn dal i ganolbwyntio ar halogiad dybryd o gynhyrchion eidion â chig ceffyl, hynny yw lle bo cynhyrchion yn cynnwys mwy nag 1% o DNA ceffylau. Mae'r Asiantaeth o'r farn bod lefelau o'r fath o DNA ceffylau yn arwydd o anghymhwyster dybryd neu gyfnewid un math o gig am fath arall yn fwriadol.
    Mae canlyniadau bellach wedi dod i law o ystod o weithgynhyrchwyr, manwerthwyr, arlwywyr, bwytai a chyfanwerthwyr ledled y DU. Mae'r cam cychwynnol o brofion bron wedi dod i ben.

    Bu achlysuron lle bo busnesau wedi tynnu cynhyrchion yn ôl o ganlyniad i olion halogiad neu ar sail ragofalus; er enghraifft os ydynt wedi'u cynhyrchu gan weithgynhyrchwyr sydd wedi cyflenwi cynhyrchion eraill wedi'u halogi â DNA ceffylau. Mae'r ASB wedi nodi manylion yr achosion hyn yn yr adroddiad, lle bo'r manylion ar gael.

Canlyniadau profion ychwanegol

Dyma ganlyniadau lle bo DNA ceffylau uwchlaw'r trothwy 1% wedi'u canfod gan y diwydiant drwy brofion a gynhaliwyd y tu allan i 'r rhaglen brofi ffurfiol neu drwy brofion eraill a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth neu awdurdodau lleol. Mae manylion y cynhyrchion hyn ar gael hefyd yn yr adroddiad isod (gweler Tabl 3).

Trefniadau adrodd yn y dyfodol

Mae rhan fwyaf o brofion DNA ceffylau'r diwydiant bellach wedi'u cwblhau. Bydd y diwydiant yn dal i brofi cynhyrchion am bresenoldeb DNA ceffylau, gan roi gwybod i'r ASB am y canlyniadau, a bydd y profion hyn yn cael eu cyhoeddi bob tri mis.

Fodd bynnag, bydd busnesau bwyd yn parhau i roi gwybod i'r ASB am unrhyw achosion o halogiad dybryd, hynny yw DNA ceffylau uwchlaw'r trothwy o 1%, a hynny ar unwaith. Bydd y ffigurau hyn, yn eu tro, yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB cyn gynted ag y byddant yn dod i law.

Yr wythnos, bydd yr ASB yn cyhoeddi'r don gyntaf o ddata o raglen samplu ledled y DU sy'n cael ei chynnal gan awdurdodau lleol ar ran yr Asiantaeth. Bwriad y gwaith hwn yw dilysu gwybodaeth gan y diwydiant bwyd a helpu i wella'r darlun o raddfa'r halogiad o gynhyrchion eidion yn y DU.