FSA in Wales
Last updated on 23 December 2008
Gweini Gwenwyn Bwyd y Nadolig Hwn
Bydd un o bob pump ohonom mewn perygl o gael gwenwyn bwyd eleni drwy fwyta hen dwrci sydd dros ben, yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Bu’r arolwg yn edrych ar arferion bwyta defnyddwyr y DU dros y Nadolig gan ddangos bod 23% o’r boblogaeth yng Nghymru yn fwy tebygol o gadw’r twrci sydd dros ben yn yr oergell am hyd at wythnos, sydd sbel yn hirach na’r 2 ddiwrnod a argymhellir. Trigolion yr Alban a Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd y rhai cyntaf i lowcio’r twrci a oedd dros ben a phobl De-ddwyrain Lloegr oedd yn cadw’r twrci am y cyfnod hiraf.
Meddai Steve Wearne, Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru:
“Mae pawb yn casáu gwastraffu bwyd ond os byddwch yn bwyta twrci sydd wedi bod yn yr oergell ers wythnos, fe allech chi fod yn gofyn am firi. Gallai bwyta’r cig hwn ladd plant ifanc iawn, yr henoed neu bobl sydd eisoes yn sâl.”
Mae gwell ffyrdd o storio a bwyta twrci sydd dros ben nad ydynt yn bygwth rhoi gwenwyn bwyd i chi fel anrheg dros yr Ŵyl. Cofiwch, os ydych chi wedi storio twrci sydd wedi’i goginio yn yr oergell, rhaid ei fwyta ymhen 2 ddiwrnod. Os ydych chi am i’r twrci sydd dros ben bara am fwy o amser, rhowch y cig yn y rhewgell unwaith y bydd wedi oeri. Er bod pawb yn hoffi gloddesta dros yr Ŵyl, ceisiwch beidio â phrynu mwy o dwrci na’r hyn sydd ei angen arnoch chi.”
Y ffordd orau o osgoi gweini gwenwyn bwyd y Nadolig hwn yw dilyn yr Hanfodion Diogelwch Bwyd:
- Glanhau - cofiwch olchi a sychu eich dwylo yn drylwyr bob amser cyn paratoi bwyd ac ar ôl trin dofednod neu gig amrwd. Gwnewch yn siŵr bod yr arwynebau gwaith yn lân.
- Coginio - coginiwch eich twrci drwyddo nes ei fod yn chwilboeth, nes bod y sudd yn llifo’n glir ac nad oes cig pinc ar ôl. Ail-gynheswch unrhyw fwyd sydd dros ben nes ei fod yn chwilboeth.
- Oeri - gwnewch yn siŵr bod eich oergell ar y tymheredd cywir - 0-5°C - er mwyn atal germau rhag tyfu. Ewch ati i oeri'r bwyd sydd dros ben yn gyflym (mewn awr neu ddwy) cyn ei daro yn yr oergell neu’r rhewgell.
- Osgoi croeshalogi - defnyddiwch wahanol fyrddau torri a chyllyll ar gyfer cig amrwd a bwydydd sy’n barod i’w bwyta - pethau fel salad a llysiau amrwd. Bydd hyn yn helpu i atal germau rhag lledaenu. Cadwch eich twrci amrwd ar silff waelod yr oergell ar wahân i fwydydd eraill.
I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch bwyd y Nadolig hwn – gan gynnwys cyngor ar ddadmer, coginio a storio eich twrci yn ogystal â ryseitiau ar gyfer y twrci sydd dros ben, ewch i’n gwefan www.eatwell.gov.uk a chofiwch ‘glicio ar ‘Cymraeg’’.
