Last updated on 10 February 2009

Gofala am Galon dy Gariad ar Ddiwrnod San Ffolant

Mae rhannu pryd rhamantus gyda’th gariad yn ffordd berffaith i ddathlu Dydd San Ffolant. Ond mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynghori cariadon i ofalu am eu calonnau wrth wledda ar ddiwrnod San Ffolant.

Y ffordd ddelfrydol o ddangos i dy gariad faint mae’n ei olygu i ti ar 14 Chwefror fyddai gweini bwyd sy’n garedig i’r galon, ac mae hynny’n golygu digon o ffrwythau a llysiau, bwyd sy’n uchel mewn ffeibr ac yn isel mewn halen a braster, yn enwedig braster dirlawn.

Mae bwyta bwyd sy’n uchel mewn braster dirlawn yn aml yn gallu cynyddu’r risg o ddatblygu clefyd y galon ond mae ffyrdd syml o fwynhau prydau blasus heb ychwanegu gormod o fraster. Bydd ymgyrch hysbysebu newydd yr ASB, sy’n cael ei lansio’r wythnos hon, yn canolbwyntio ar sut mae lleihau faint o fraster dirlawn yr ydym yn ei fwyta.

Ac i wneud yn siwr bod pawb yn dathlu diwrnod San Ffolant mewn ffordd iach, mae’r ASB wedi cyhoeddi ’chydig o awgrymiadau ar sut i baratoi swper sy’n garedig i’r galon os wyt ti’n coginio yn y tŷ a chyngor ar ddathlu’r diwrnod drwy fwyta allan.
Calon lân sy’n llawn daioni

Dyma ychydig o syniadau ar gyfer paratoi pryd i ddau sy’n garedig i’r galon:

  • Wrth ddewis rysáit, chwilia am un sy’n cynnwys digon o ffrwythau a llysiau a cheisia selio’r pryd ar fwyd â starts megis reis, tatws neu basta (mathau grawn cyflawn lle bo’n bosibl).
  • Pan fyddi di’n dewis cynhwysion megis hufen, caws caled a darnau o gig, dewisa fersiynau sydd â llai o fraster.
  • Os wyt ti’n bwriadu paratoi pastai neu darten felys, beth am haneru’r cynhwysion a dewis gwaelod neu gaead yn unig yn hytrach na chael y ddau?
  • Drwy gratio caws, bydd mwy ohono ac felly byddi di’n defnyddio llai!
  • Beth am ddangos faint mae dy gariad yn ei olygu i ti drwy baratoi pysgod olewog? Mae tystiolaeth yn dangos fod pysgod olewog yn cynnwys brasterau sy’n gallu lleihau’r perygl o ddatblygu clefyd y galon. Dylai pob un ohonom geisio bwyta dau ddogn o bysgod yr wythnos, gan gynnwys un dogn o bysgod olewog – megis eog, mecryll neu diwna ffres.

Rwy’n caru llysiau

Beth am baratoi gwledd flasus drwy arbrofi â dau o’n gwreiddlysiau mwyaf diddorol, sydd yn eu tymor yr adeg hon o’r flwyddyn.

Efallai nad yw seleriac ymysg y llysiau mwyaf prydferth, ond er gwaethaf ei ymddangosiad hyll mae sawl peth y gelli di ei baratoi drwy ddefnyddio seleriac, ac mae’n blasu ychydig yn ysgafnach na seleri.

Rho gynnig ar ei dorri’n ddarnau bach a’i stemio neu ei ferwi cyn ei stwnshio a’i gymysgu â thatws stwnsh. Os wyt ti fel arfer yn ychwanegu llaeth neu sbred at stwnsh, cofia ddewis mathau â llai o fraster.

Neu, beth am sleisio’r seleriac yn ddarnau tenau a’u rhoi mewn dresin o iogwrt braster isel, mayonnaise â llai o fraster, rhywfaint o bersli, shibwns/slots, sudd lemon a mwstard i greu rémoulade clasurol.

Ac yn olaf, beth am ei rostio mewn ychydig o olew coginio annirlawn gyda gwreiddlysiau eraill megis tatws, pannas, rwdan/erfin, moron a maip.

Mae artisiog Jeriwsalem yn blasu ychydig fel cnau ac yn hyfryd ar ôl ei blicio a’i bobi mewn gratin. Maent hefyd yn berffaith mewn cawl. Y cwbl sydd angen i ti ei wneud yw ei blicio, ei sleisio a’i fudferwi gyda stoc nionyn/winwnsyn a moron i baratoi cawl blasus a lliwgar.

Ryseitiau rhamantus

Os wyt ti’n bwriadu dangos dy hun yn y gegin ar Ddydd San Ffolant, cofia bod llond gwlad o syniadau ar gael i ti - dyma rai i lenwi dy ddiwrnod cyfan â bwyd blasus - ac mae pob un o’r ryseitiau canlynol, ynghyd â’r wybodaeth am faeth a’r goleuadau traffig, ar gael ar ein gwefan: www.eatwell.gov.uk

Brecwast

Beth am ddechrau bendigedig i’r diwrnod gyda diod banana neu smwddi banana blasus? Neu byddai ychydig o granola dros iogwrt braster isel yn frecwast hyfryd, neu os wyt ti’n teimlo fel mentro, beth am roi cynnig ar baratoi dy fara dy hun gyda’n rysáit cyflym a hawdd?

Cinio

’Does dim yn well i gynhesu taith gerdded na fflasg o gawl poeth. Felly beth am baratoi pryd swmpus o gawl llysiau neu domato a chorbys i fynd gyda thi ar dy daith?

Swper

Beth am baratoi swper sbeislyd i greu ychydig o gyffro gyda’r hwyr? Rho gynnig ar baratoi eog â blas pupur i greu swper blasus ac iach. Hyfryd gyda stwnsh tatws melys a salad gyda dresin coriander.

Ac i bwdin…

Ac yn olaf, i gipio calon dy gariad, beth am baratoi pwdin blasus a choginio crymbl afal a mafon, pwdin aeron neu knickerbockerglory.

Os nad wyt ti awydd un o’r rhain - cymer gip ar yr adran ryseitiau gyfan.

Rhamant yn y bwyty

Os wyt ti’n mynd allan am bryd o fwyd ar Ddydd San Ffolant, mae’n bosibl y byddi di’n bwyta mwy o fraster (yn enwedig braster dirlawn), halen a chalorïau. Dyma rai syniadau syml i dy helpu i ddewis pryd iachach, heb ddifetha’r rhamant!

Dewisa brydau sydd wedi eu:

  • grilio
  • berwi
  • potsio
  • stemio
  • tro-ffrio

Mae dewisiadau da yn cynnwys:

  • cig fel cyw iâr (heb y croen) a chig eidion heb lawer o fraster
  • pysgod
  • corgimychiaid
  • codlysiau fel corbys a ffa
  • bara – gwenith cyflawn, granari, brown, bara â hadau, bagel neu fynsen gyrens
  • ffrwythau, salad ffrwythau a sorbed
  • sawsiau tomato
  • cyri sych yn hytrach na chyri hufennog
  • llysiau a saladau plaen, gyda dresin ar yr ochr
  • reis wedi’i stemio neu ei ferwi
  • tatws wedi’u pobi neu eu berwi

I gael rhagor o gyngor ar ddewis bwyd iachach, cer i wefan Bwyta’n Iach yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar: www.eatwell.gov.uk - a chofia glicio ar Cymraeg