FSA in Wales
Last updated on 4 Rhagfyr 2009
Cam yn nes at arddangos calorïau ar fwydlenni
Mae’r nod o gyflwyno gwybodaeth am galorïau ar fwydlenni gam yn nes at gael ei wireddu heddiw yn dilyn gwaith llwyddiannus a chynhyrchiol yr haf hwn gyda 21 cwmni arlwyo.
Er mwyn helpu pobl i wneud dewisiadau iach wrth fwyta allan, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd am gael barn pobl ar ddefnyddio cynllun labelu calorïau.
Mae busnesau arlwyo, gan gynnwys llawer o enwau blaenllaw’r stryd fawr, wedi bod yn dangos cyfanswm calorïau’r prydau bwyd ar fwydlenni mewn rhai o’u bwytai i helpu pobl i wneud dewisiadau iachach.
Byddai cynllun labelu calorïau gwirfoddol yn galluogi pobl i weld faint o galorïau sydd yn y bwydydd a’r diodydd maent yn eu harchebu wrth fwyta allan – mewn bwyty, siop goffi a brechdanau, tafarn, atyniad hamdden neu fwyty staff.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn am farn y cyhoedd a’r diwydiant arlwyo ynglŷn ag arddangos gwybodaeth am galorïau, a bydd yn cau ar 11 Mawrth 2010. Mae’n amlinellu’r egwyddorion allweddol ar gyfer cynllun, sy’n seiliedig ar waith a gyflawnodd yr Asiantaeth dros yr haf gyda 21 cwmni a oedd eisoes wedi cyflwyno cynllun labelu calorïau mewn rhai neu bob un o’u bwytai.
Mae astudiaeth werthuso annibynnol, sydd hefyd yn cael ei chyhoeddi heddiw gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn dangos bod y grŵp cyntaf hwn o fusnesau wedi gallu cyflwyno cynllun labelu calorïau’n gymharol rwydd. Mae hefyd yn dweud wrthym beth mae cwsmeriaid am ei weld mewn cynllun a fyddai’n eu helpu i wneud dewisiadau iachach yn haws.
Yn ôl y gwerthusiad, roedd tri ffactor – gwelededd, dealltwriaeth ac ymgysylltiad defnyddwyr – yn cael effaith ar allu ac awydd defnyddwyr i ddefnyddio’r wybodaeth am galorïau. Gallai pobl weld eu hunain yn defnyddio’r wybodaeth am galorïau i’w helpu i wneud dewisiadau iachach tra’n mwynhau eu hoff fwydydd wrth fwyta allan.
Hefyd, nododd y gwerthusiad y bydd mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o labeli calorïau ac yn eu defnyddio unwaith y byddant yn cael eu defnyddio’n fwy eang.
Meddai Gillian Merron, y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd:
"Mae pobl am weld faint o galorïau sydd yn y bwydydd a’r diodydd maent yn eu harchebu wrth fwyta allan.
"Diolch i waith y Llywodraeth gyda’r diwydiant, rwy’n falch o allu cyhoeddi bod y nod o gael calorïau ar fwydlenni gam yn nes at gael ei wireddu.
"Mae’r grŵp cyntaf o fusnesau i roi cynnig arni wedi gweld canlyniadau cadarnhaol ac mae rhai wedi cytuno i barhau i roi gwybodaeth am galorïau ar eu bwydlenni – newyddion gwych i gwsmeriaid.
"Rwyf am weld mwy o gwmnïau arlwyo’n dilyn yr un trywydd i helpu eu cwsmeriaid i wneud dewisiadau iachach."
Meddai Tim Smith, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd:
“Mae’r ymgynghoriad rydym yn ei lansio heddiw’n gofyn am farn y diwydiant a defnyddwyr ar y dull gorau o roi cynllun labelu calorïau ar waith. Bydd hefyd yn pennu canllawiau ar gyfer busnesau sydd am ymuno â’r fenter bwysig hon.
“Mae ein gwaith gyda’r sector arlwyo’n torri tir newydd. Wrth brynu byrbryd cyflym, bwyta mewn bwyty staff neu allan am bryd gyda’r teulu – bydd labeli calorïau’n galluogi pobl i weld beth yw’r dewisiadau iachach ac yn eu helpu i wella’u deiet.”
Mae’r ymgynghoriad yn cau ar 11 Mawrth 2010. Bydd yr Asiantaeth yn crynhoi ymatebion ac yn cyhoeddi manylion ar gyfer cynllun terfynol yn ystod gwanwyn 2010.
Nodiadau i Olygyddion (Saesneg yn unig)
The 21 companies who introduced the scheme this summer:
Burger King
Camden Food Co
Chessington World of Adventures and Zoo (operated by Merlin
Entertainment),
Compass Group UK and Ireland (in a number of Royal Mail staff restaurants)
Harvester restaurants and Scream Pubs (operated by Mitchells & Butlers)
ISS Mediclean (in a number of London hospital restaurants)
KFC
Marks & Spencer Cafes
Nestle UK staff restaurants
Pizza Hut
Pret A Manager
Sainsbury’s Cafes
Sodexo (in a number of client restaurants in its corporate and defence sectors)
Subway
Tesco staff restaurants
The Co-operative Expresso Cafes
The Real Greek
Unilever staff restaurants
Waitrose cafes
Wimpy
7 Day Catering (in staff restaurants)
- The Healthy Food Code of Good Practice makes a commitment to provide clear, effective and simple to understand nutritional information on food in a wide range of catering settings.
- The FSA launched this work in Jan 09 and we are now working with 21 companies who originally agreed to introduce calorie labelling in 450 outlets across the UK. This increased to 800 outlets at the end of October 09. Some have made long-term commitments whilst others are participating on a trial basis.
- The Agency’s Social Science Research Unit commissioned TNS- BMRB to carry out an independent evaluation to explore practical implications for businesses and consumers’ initial reactions to the provision of calorie information at the point of choice. It was based on interviews with outlet managers and Head Office representatives of companies working with the Agency, as well as 289 customer interviews carried out within outlets either while they were choosing their food or shortly after and 8 focus groups with consumers. Fieldwork was carried out during May, June and July.
- The overall aim of the study published today was to explore the practical implications for businesses participating in the pilot phase of a scheme to provide calorie information at the point of choice in catering outlets and to explore consumers’ views of the visibility and presentation of calorie information. The study did not seek to investigate demand for calorie labelling but to explore whether and how consumers used the scheme in purchasing decisions.
- The methods employed in this research were qualitative in nature. Qualitative methods neither seek, nor allow, data to be given on the numbers of people holding a particular view nor having a set of experiences. The aim of qualitative research is to define and describe the range of emergent issues and explore linkages, rather than to measure their extent.
- BMRB Social Research Qualitative was commissioned to carry out the evaluation in April 2009. Since this they have merged with TNS and are now trading under TNS-BMRB. The evaluation report refers to BMRB and BMRB Social Research Qualitative.
For more information, contact Sarah Newman in the FSA press office on 020 7276 8814
