FSA in Wales
Last updated on 31 Mawrth 2011
Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd hyd at 2015
Mae strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd hyd at 2015 yn amlinellu’r camau y bydd yr Asiantaeth yn eu cymryd i sicrhau eich bod yn gallu parhau i ymddiried a hyderu yn y bwyd yr ydych yn ei brynu ac yn ei fwyta.
Mae’r Strategaeth hyd at 2015, a ddiweddarwyd ym mis Mawrth 2011, yn amlinellu ein hamcan i sicrhau bwyd mwy diogel i’r genedl, yn ogystal â’r canlyniadau a’r blaenoriaethau yr ydym yn gweithio tuag atynt.
Pan gyhoeddwyd y Strategaeth hyd at 2015 yn wreiddiol yn ôl ym mis Rhagfyr 2009, fe ymrwymodd yr Asiantaeth i’w hadolygu yn flynyddol er mwyn sicrhau ei bod yn addas at ei diben ac yn parhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r fersiwn ddiwygiedig, a ddiweddarwyd ym mis Mawrth 2011, i’w gweld drwy’r ddolen ar waelod y dudalen. Mae copi o’r strategaeth wreiddiol, yn ogystal â strategaethau blaenorol rhwng 2001-2010 ar gael yn ein harchifau drwy’r ddolen isod.
Mae’r strategaeth wedi’i hysgrifennu mewn modd y gall y cyhoedd ei deall ac mae’n egluro'r holl waith yr ydym yn ei wneud ledled y DU. Mae’r strategaeth hefyd yn seiliedig ar ein hegwyddorion craidd sef: rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf; bod yn agored ac yn annibynnol a seilio ein gwaith ar wyddoniaeth a thystiolaeth. Mae’r egwyddorion hyn yn llywio gwaith yr ASB. Er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod cylch gwaith yr Asiantaeth ym maes gorfodi wedi ehangu erbyn hyn, a hynny ar ôl iddi uno â’r Gwasanaeth Hylendid Cig, rydym wedi cynnwys egwyddor graidd newydd: Gorfodi cyfraith bwyd yn deg.
Canlyniadau
Dyma’r chwe chanlyniad y mae’r ASB yn ceisio eu cyflawni:
- mae’r bwyd sy’n cael ei gynhyrchu neu ei werthu yn DU yn ddiogel i’w fwyta
- mae’r bwyd sy’n cael ei fewnforio yn ddiogel i’w fwyta
- mae cynhyrchwyr bwyd ac arlwywyr yn rhoi blaenoriaeth i fuddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd
- mae gan ddefnyddwyr yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch beth i’w fwyta a ble
- mae’r gwaith rheoleiddio yn effeithiol, yn seiliedig ar risg ac yn gymesur, yn glir ynghylch cyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd, ac yn diogelu defnyddwyr a’u buddiannau rhag twyll a pheryglon eraill
- mae’r gwaith gorfodi’n effeithiol, yn gyson, wedi’i seilio ar risg ac yn gymesur ac mae’n canolbwyntio ar wella iechyd y cyhoedd
Gweithio yn y DU, yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhyngwladol
Mae’r strategaeth yn egluro sut y mae’r ASB yn cydweithio â’r Llywodraeth, busnesau a phartneriaid gorfodi i sicrhau bod safonau diogelwch bwyd yn cael eu gweithredu a’u gorfodi yn gyson ledled y DU, a bod blaenoriaethau cenedlaethol a lleol yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith yr ASB.
Mae’r ASB yn anelu at gynnig gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol ynghylch bwyd i helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus. Bydd yr ASB yn parhau i weithio â defnyddwyr a grwpiau defnyddwyr i wneud hyn, ac i sicrhau cynrychiolaeth o ran buddiannau bwyd y DU yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn rhyngwladol.
Strategaeth Gwyddoniaeth a Thystiolaeth
Mae Strategaeth Gwyddoniaeth a Thystiolaeth 2010–15 yr Asiantaeth yn disgrifio’r blaenoriaethau o ran y dystiolaeth y bydd arnom ei hangen a’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau ac yn defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth yn effeithiol yn ein gwaith. Bydd yn helpu i wireddu amcanion strategol yr Asiantaeth, yn brawf o’n cynnydd a bydd yn llywio datblygiadau yn ein gwaith tu hwnt i 2015. Mae’r Strategaeth Gwyddoniaeth a Thystiolaeth wedi’i diweddaru yn unol â Strategaeth 2015 ac i’w gweld drwy’r ddolen isod (Saesneg yn unig).
Os hoffech weld hen fersiynau o’r Strategaeth hyd at 2015, cymerwch gip drwy’r ddolen isod ar fersiwn o’r dudalen hon sydd wedi’i harchifo.
