Bwyd-ysawd: dewch ar daith
Mae 'Bwyd-ysawd: dewch ar daith’ yn becyn o adnoddau lliwgar sy’n addas ar gyfer oedrannau penodol. Cafodd y pecyn ei ddylunio a’i ddatblygu i alluogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau a gwybodaeth hanfodol am fwyd.
Datblygwyd y pecyn drwy gydweithio â’r bobl ifanc eu hunain, ynghyd â’u hathrawon, ac mae’r adnoddau yn dod â chymwyseddau bwyd yr Asiantaeth yn fyw!
Cafodd Bwyd-ysawd ei ddatblygu i:
- alluogi plant a phobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth am ddeiet ac iechyd, diogelwch bwyd, coginio (paratoi a thrin bwyd) ac ymwybyddiaeth defnyddwyr (wrth siopa)
- annog disgyblion i hunan-astudio yn annibynnol fel y gallant ddysgu a phrofi eu gwybodaeth ar eu liwt eu hunain
- cefnogi pob cwricwlwm ledled y DU gyda chysylltiadau perthnasol i dechnoleg bwyd, economeg y cartref, gwyddoniaeth, addysg iechyd personol ac addysg grefyddol
- cael eu defnyddio gan rieni/gofalwyr yn ogystal ag athrawon
- cyd-fynd ag ymrwymiad yr Asiantaeth i gynhyrchu fersiwn o’r cymwyseddau bwyd y gall pobl ifanc ei deall a’i defnyddio
Datblygwyd adnoddau Bwyd-ysawd gan yr Asiantaeth, drwy gydweithio’n agos â Sefydliad Maetheg Prydain, ac maent wedi’u rhannu’n adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd ac adnoddau ar gyfer ysgolion uwchradd.
Yr adnoddau
Mae’r adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd, sef pobl ifanc hyd at 12 oed, yn cynnwys cyfres o bedwar o siartiau targed sy’n gysylltiedig â phob un o’r cymwyseddau bwyd ac maent wedi’u hategu â chanllaw i athrawon ar sut i’w defnyddio yn ogystal â chanllaw cyflawni. Mae cyfres o daflenni gwaith ar gael hefyd, sydd ar gael i’w lawrlwytho yn unig.
Mae’r adnoddau ar gyfer ysgolion uwchradd i’w cael ar ffurf llyfr gwaith byr ar gyfer pob un o’r cymwyseddau, eto wedi’u hategu â chanllaw i athrawon ar sut i’w defnyddio.
Gellir lawrlwytho tystysgrif ar gyfer pob grŵp oedran, i’w chyflwyno ar ôl cwblhau pob un o’r siartiau, y taflenni gwaith neu’r llyfrau gwaith amrywiol.
Mae’r adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd yn helpu plant i ddysgu am ddeiet iach a chytbwys, bod yn ddiogel yn y gegin, datblygu a defnyddio sgiliau coginio sylfaenol, megis plicio, sleisio a chymysgu, yn ogystal â dysgu plant am labelu bwyd ac o ble y daw eu bwyd.
Mae’r llyfrau gwaith ar gyfer ysgolion uwchradd yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc sy’n edrych ar ‘8 awgrym bwyta’n iach’ yr Asiantaeth, cynnal pwysau iach, atal croeshalogi, deall cyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd, ffactorau sy’n dylanwadu ar ein dewisiadau bwyd (gan gynnwys dylanwad hysbysebion) a sut i wneud ryseitiau yn iachach wrth goginio.
Adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd
Canllaw defnyddio i athrawon
Hyd at oedrannau 7 i 9
Taflenni gwaith
Siart gyflawn
Siart diogelwch bwyd
Siart deiet ac iechyd
Siart coginio
Siart siopa
Canllaw cyflawni i athrawon
Tystysgrif llwyddo
Hyd at oedrannau 11 i 12
Taflenni gwaith
Siart gyflawn
Siart diogelwch bwyd
Siart deiet ac iechyd
Siart coginio
Siart siopa
Canllaw cyflawni i athrawon
Tystysgrif llwyddo
Adnoddau ar gyfer ysgolion uwchradd
Canllaw defnyddio i athrawon
Hyd at oedrannau 11 i 14
Llyfr gwaith diogelwch bwyd
Llyfr gwaith deiet ac iechyd
Llyfr gwaith coginio
Llyfr gwaith ymwybyddiaeth defnyddwyr
Hyd at oedrannau 16+
Llyfr gwaith diogelwch bwyd
Llyfr gwaith deiet ac iechyd
Llyfr gwaith coginio
Llyfr gwaith ymwybyddiaeth defnyddwyr
I archebu copïau o adnoddau Bwyd-ysawd yn rhad ac am ddim (tra bo’r stoc yn para) cysylltwch â Chyhoeddiadau’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar 0845 606 0667 neu drwy e-bostio: foodstandards@ecgroup.co.uk. Mae rhestr gyflawn o’r holl adnoddau sydd ar gael i’w harchebu, yn ogystal â’u codau archebu, ar gael isod.
Mae fersiynau y gellir eu lawrlwytho, ynghyd â rhagor o wybodaeth am fframwaith cymwyseddau bwyd yr Asiantaeth, ar gael ar y dolenni isod.
Find out more
Adnoddau ar gyfer Ysgolion Cynradd: Oedrannau 11 i 12
Mae’r adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd, sef pobl ifanc hyd at 12 oed, yn cynnwys cyfres o bedwar o siartiau targed sy’n gysylltiedig â phob un o’r cymwyseddau bwyd ac maent wedi’u hategu â chanllaw i athrawon ar sut i’w defnyddio a chanllaw cyflawni. Mae cyfres o daflenni gwaith ar gael hefyd, sydd ar gael i’w lawrlwytho yn unig.
Adnoddau ar gyfer Ysgolion Cynradd: Oedrannau 7 i 9
Mae’r adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd yn helpu plant i ddysgu am ddeiet iach a chytbwys, bod yn ddiogel yn y gegin, datblygu a defnyddio sgiliau coginio sylfaenol, megis plicio, sleisio a chymysgu, yn ogystal â dysgu plant am labelu bwyd ac o ble y daw eu bwyd.
Adnoddau ar gyfer Ysgolion Uwchradd: Oedrannau 14 i 16
Mae’r llyfrau gwaith ar gyfer ysgolion uwchradd yn cynnwys gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc sy’n edrych ar ‘8 awgrym bwyta’n iach’ yr Asiantaeth, cynnal pwysau iach, atal croeshalogi, deall cyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd, ffactorau sy’n dylanwadu ar ein dewisiadau bwyd (gan gynnwys dylanwad hysbysebion) a sut i wneud ryseitiau yn iachach wrth goginio.
Adnoddau ar gyfer Ysgolion Uwchradd: Oedrannau 16+